Home » Huw Edwards yn Llambed
Cymraeg News

Huw Edwards yn Llambed

Huw Edwards: Ddarlith ddifyr a llawn gwybodaeth
Huw Edwards: Ddarlith ddifyr a llawn gwybodaeth

ER EI bod hi’n noson gêm rygbi ryngwladol, daeth tyrfa fawr o bobl ynghyd i glywed yr awdur a phrif ddarlledwr newyddion y BBC, Huw Edwards, yn traddodi Darlith Goffa Cliff Tucker 2017 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ar 10 Mawrth.

Testun ei ddarlith oedd ‘Ar drywydd y “Ginshop”: Capeli’r Cymry yn Llundain’, a chafwyd cyflwyniad gloyw ar hanes lliwgar Cymry Llundain gyda’r pwyslais ar eu haddoldai, yn gapeli gan mwyaf, ond heb anghofio bod pum eglwys Anglicanaidd hefyd wedi bodoli ar un adeg lle cynhelid cyfarfodydd Cymraeg.

Mae’r achosion Cymraeg yn deillio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif pan ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn adeiladau digon tlodaidd yr olwg yn ardal Lambeth. Prif noddwr yr achos gwreiddiol oedd Edward Jones o Lansannan a gadwai ‘Ginshop’ yn y ddinas. Yr oedd yn berchen hefyd ar nifer o dai a siopau, a hyd yn oed y capel gwreiddiol yn Wilderness Row fel y daeth i’r amlwg yn ddiweddarach. Datblygodd yr achos hwn yn sail i Gapel Jewin yn y pen draw, ond bod y safle wedi ei symud i St Paul’s i’r gogledd o’r afon. Codwyd capel hardd yno ar droad yr ugeinfed ganrif ond fe’i bomiwyd yn 1940 a pharhaodd yn adfail tan 1961 pan agorwyd y capel presennol ar ei newydd wedd.

Trwy gyfrwng map a lluniau niferus, dangoswyd mai tridegau’r ugeinfed ganrif oedd penllanw capeli Llundain gyda channoedd lawer o aelodau yn y capeli a rhai cannoedd o blant yn yr ysgolion Sul. Yn ogystal ag olrhain hanes Capel Jewin, cafwyd cyfeiriadau at nifer o gapeli eraill o bob enwad, gan gynnwys capeli Boro, Mile End, King’s Cross, Charing Cross, Clapham Junction a Castle Street.

Am fwy o wybodaeth darllenwch gyfrol Huw Edwards, City Mission ‒ The Story of London’s Welsh Chapels. Mae’n werth chweil.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Lywydd y Brifysgol, Dr Brinley Jones.

Trefnwyd y ddarlith gan Dr Rhiannon Ifans, Cyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Roedd yn sicr yn noson o ddiddanwch a dysg, ac un a fydd yn sefyll yn y cof am hir amser

Er mwyn cadw i fyny â newyddion cymunedol, darllenwch clonc360. cymru a chael eich copi misol

Author