Home » Dyfodol canu corawl yn ddiogel yn nwylo’r plant
Cymraeg

Dyfodol canu corawl yn ddiogel yn nwylo’r plant

MAE ENILLYDD dwy wobr Grammy – sydd yn un o feirniaid cystadleuaeth Côr Cymru S4C eleni – wedi rhyfeddu at safon y corau yng Nghymru. Ac mae Christopher Tin yn credu bod y corau plant wedi gosod safon uchel dros ben ar gyfer Côr Cymru 2017.

Roedd y beirniad uchel ei barch yn siarad ar drothwy’r rhaglen fydd yn dangos y gystadleuaeth corau plant, nos Sul, 19 Mawrth. Bydd pedwar o gorau plant mwyaf talentog Cymru yn ceisio creu argraff arno ef a’r ddau feirniad arall, Maria Guinand o Venezuela ac Athro Corawl cyntaf Prifysgol Rhydychen, Edward Higginbottom.

“I Americanwr fel fi, mae’r gystadleuaeth wedi bod yn agoriad llygad i ddyfnder ac ansawdd y traddodiad corawl Cymreig. Cafodd y cantorion ifanc argraff fawr arna i, roedd eu lleisiau’n llawn disgleirdeb ac fe wnaethon nhw ganu gyda pherseinedd a soffistigeiddrwydd,” meddai Christopher Tin.

Cynhelir cystadleuaeth Côr Cymru bob dwy flynedd ac mae pum categori yn y bencampwriaeth. Fe wnaeth pedwar côr ennill eu lle yn rownd gynderfynol categori’r plant eleni, sef Côr Iau Ieuenctid Môn, Côr Ieuenctid Môn, Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr y Cwm o ardal y Rhondda.

Y tro diwethaf i gystadleuaeth Côr Cymru gael ei chynnal yn 2015, côr o gategori corau’r plant, Côr Heol y March ger y Bontfaen, enillodd y bencampwriaeth yn gyfan gwbl.

Ddwy flynedd wedi ennill y gystadleuaeth mae arweinydd Côr Heol y March, Eleri Roberts, yn dal yn falch iawn o’r fuddugoliaeth ac yn ei gweld hi fel un o’r uchafbwyntiau yn hanes y côr.

“Roedd ennill cystadleuaeth Côr Cymru yn 2015 yn brofiad anhygoel i mi ac i blant y côr, ac mae wedi rhoi llawer o gyfleoedd i ni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai.

“Mae’r côr wedi cael cyfle i berfformio gwaith Karl Jenkins, Cantata Memoria, ac i ganu mewn cyngerdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC a ddarlledwyd ar BBC Radio 3. Ac yn fwy diweddar ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni buom ni’n canu mewn derbyniad yn 10 Stryd Downing.”

Mae gwobr o £4,000 ynghlwm ag ennill Côr Cymru a defnyddiodd Côr Heol y March yr arian i gystadlu mewn cystadleuaeth gorawl arall yn Ewrop.

“Defnyddiwyd gwobr Côr Cymru i fynd â’r côr i Ŵyl Gorawl Ryngwladol yn Calella, Sbaen, lle buom yn fuddugol, a hefyd cawsom gyfle i ganu mewn cyngerdd cyfeillgarwch hyfryd yn y Gadeirlan yn Barcelona. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i ni fel côr. Diolch yn fawr Côr Cymru a hir oes i’r gystadleuaeth,” ychwanegodd Eleri Roberts.

online casinos UK

Author