Home » Llwybr newydd Ysgol Talgarreg
Cymraeg News

Llwybr newydd Ysgol Talgarreg

screen-shot-2016-11-29-at-11-53-52MAE LLWYBR newydd gydag arwyneb artiffisial wedi ei agor yn nhiroedd Ysgol Gynradd Talgarreg sy’n cynnig llwybr mwy diogel i’r ysgol ar gyfer y dis gyblion.

Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am y prosiect ac fe gafodd ei ariannu trwy Grant o dan Gynllun Llywodraeth Cymru, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Mae’r grant hwnnw’n rhoi cyfle i awdurdodau lleol ddarparu llwybrau cerdded a seiclo mwy diogel rhwng ardaloedd, at ysgolion a cholegau, at drafnidiaeth gyhoeddus a nifer o wasanaethau a chyfleoedd yn lleol.

Mae’r Cynghorydd Sir Lleol, Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, Datblygu Cymunedol, Diwylliant a Hamdden wedi croesawu agor y llwybr newydd. Dywedodd “Gwych o beth oedd derbyn grant Llywodraeth Cymru. Bu’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Neuadd Bentref Talgarreg sydd wedi cytuno’n garedig y caiff y staff a’r rhieni ddefnyddio maes parcio’r neuadd yn ystod oriau agor yr ysgol a cherdded i’r ysgol ar y llwybr.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Lloyd, sydd hefyd yn lywodraethwr yn yr ysgol: “Mae llai o geir yn parcio o flaen yr ysgol yn barod a oedd yn arfer achosi tagfeydd a phroblemau diogelwch. Yn lle gosod llwybr tarmac yng nghanol cae chwarae’r ysgol, a fyddai wedi bod yn anaddas iawn i’r plant, mae swyddogion priffyrdd Cyngor Ceredigion wedi gosod llwybr ag arwyneb artiffisial, y cyntaf o’i fath yn y sir, sy’n addas i’w ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn.”

Dywedodd Mrs Mair Potter, Pennaeth Ysgol Gynradd Talgarreg: “Yr ydym yn defnyddio Neuadd y Pentref yn ystod yr wythnos ar gyfer gwersi addysg gorfforol ac yn rheolaidd ar gyfer ymarferion at gyngherddau’r ysgol ac Eisteddfodau. Roeddem yn arfer gorfod mynd â’r plant ar droed ar hyd y ffordd oherwydd does dim palmant. Felly, mae’r llwybr newydd yn wych oherwydd ei fod yn llawer mwy diogel.”

Author