BEIDDGAR, blaengar a thrawsffurfiol – dyna nod prosiect gwerth £6.287 miliwn, ‘Glan Cei’r Gorllewin’, a lansiwyd gan Gyngor Sir Penfro.
Mae’r cynllun gwaith 18 mis ar yr adeilad tri llawr ar Lan-yr-afon yn Hwlffordd yn rhan o raglen adfywio gynhwysfawr y Cyngor ar gyfer y dref.
Bydd y safle, sef siop Ocky White gynt, yn cael ei ddatblygu’n gyrchfan a marchnadfa ddeniadol a bywiog ar gyfer cynnyrch lleol, a’i gyfuno â’r potensial am ddefnydd hamdden a defnydd y gymuned i annog mwy o egni, gwydnwch a bywiogrwydd yng nghanol y dref dros gyfnod.
Mae’r dull, sy’n cael ei arwain gan ansawdd, yn cynnwys cynlluniau am seddi ac arddangosfeydd tu allan, a chanolbwynt ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol a allai ymestyn ei ddefnydd i fin nos cynnar. Fel hyn, bydd y datblygiad yn cysylltu ac yn gwella ochr Bridge Street ar lan yr afon, gan wella argraff gyntaf ymwelwyr o’r dref.
Bydd busnesau presennol yn yr ardal yn aros ar agor trwy gydol y cynllun adeiladu 18 mis.
Ynghyd â chefnogi twf busnesau lleol ac ysgogi ffyniant a buddsoddiad economaidd hirdymor, mae’r prosiect yn dystiolaeth bod y Cyngor Sir yn cyflawni ei ymrwymiad i gefnogi adfywio tref sirol Sir Benfro, meddai’r Cynghorydd Paul Miller.
“Dyma enghraifft glir ohonom yn dwyn perchenogaeth ar drawsffurfio ein trefi,” meddai’r Cynghorydd Miller, yr Aelod Cabinet dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant. “Wrth reswm, ni all yr awdurdod lleol drawsffurfio canol tref Hwlffordd ar ei ben ei hun, ond gyda’n partneriaid, gallwn wneud.”
“Mae Cei’r Gorllewin yn brosiect gwirioneddol uchelgeisiol a chadarnhaol,” meddai. “Bydd nid yn unig yn helpu i yrru pobl i’r dref, bydd hefyd yn cefnogi twf busnes ac yn creu canolbwynt cymunedol ychwanegol. At hynny, mewn cyfnod o gymaint o ansicrwydd economaidd, ni fu’r angen am helpu i ddarparu hwb economaidd i Sir Benfro erioed yn fwy hanfodol.”
Mae’r contractwyr a benodwyd ar gyfer y safle, sef John Weaver Ltd, wedi bod yn cynnal gwaith rhagarweiniol, gan gynnwys gosod ffens o gwmpas y safle, cyn dechrau dymchwel cefn yr adeilad yn rhannol.
Bydd deunyddiau’r safle’n cael eu cludo yno trwy’r fynedfa ar Swan Square rhwng amseroedd gweithio arferol, sef 8am tan 4.30pm, yn ystod y cynllun a bydd mynediad i gerddwyr yn parhau o ardal Glan-yr-afon i Bridge Street dros y bont ac ar hyd y llwybr ochr yn ochr â’r Friars.
Mae maes parcio’r ‘Twll yn y wal’ wedi cael ei gau fel y gall y contractwyr ei ddefnyddio’n ganolfan. Caiff lle parcio arall ei ddarparu gerllaw.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Lleol Tom Tudor fod dyfodol y dref yn edrych yn ‘ddisglair iawn yn wir’.
“Fel Cynghorydd Sir Ward y Castell rwy’n croesawu’r newyddion yma,” meddai.
“Ynghyd â mentrau eraill fel y cyswllt cerdded newydd rhwng Llyn y Castell a Sgwâr y Castell, rwy’n obeithiol iawn y bydd Canol Tref Hwlffordd yn dod yn lleoliad masnachol a phreswyl ffyniannus o ddewis gyda chymuned wydn a bywiog.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Nod ein Rhaglen Trawsnewid Trefi yw cynyddu egni a gwydnwch canol ein trefi, a nifer yr ymwelwyr â nhw, a bydd ailddatblygu siop Ocky White yn gwneud hynny.
“Mae’r adeilad adnabyddus hwn yn cael ei adfywio’n ganolfan a fydd nid yn unig o fudd i bobl leol, ond a fydd hefyd yn cynnig hwb mawr i’r dref ac i’r economi leol. Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller fod Glan Cei’r Gorllewin yn elfen allweddol o raglen adfywio’r dref, a ddechreuodd pan agorwyd llyfrgell a chanolfan ddiwylliannol lwyddiannus iawn Glan-yr-afon, ac yn y dyfodol, mae’r rhaglen yn cynnwys ailddatblygu maes parcio aml-lawr y dref, cynlluniau i wella Castell Hwlffordd, a phrynu Canolfan Siopa Glan-yr-afon.
“Dyluniwyd yr holl brosiectau hyn i sicrhau ein bod ni, fel awdurdod lleol, yn chwarae ein rhan wrth drawsnewid ffyniant Hwlffordd,” meddai.
Add Comment