Home » Rhedeg i Robert
Cymraeg News

Rhedeg i Robert

O’r chwith i’r dde: Sally Corlett Cydlynydd Dementia Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Naomi McDonagh Cydlynydd Strategaeth 50+, Julie Hutchings Rheolwraig Canolfan Adnoddau Bryntirion, Daniel Thomas a Sian Davies, Uwch Reolwraig Gofal Canolfan Adnoddau Bryntirion
O’r chwith i’r dde: Sally Corlett Cydlynydd Dementia Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Naomi McDonagh Cydlynydd Strategaeth 50+, Julie Hutchings Rheolwraig Canolfan Adnoddau Bryntirion, Daniel Thomas a Sian Davies, Uwch Reolwraig Gofal Canolfan Adnoddau Bryntirion
O’r chwith i’r dde: Sally Corlett Cydlynydd Dementia Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Naomi McDonagh Cydlynydd Strategaeth 50+, Julie Hutchings Rheolwraig Canolfan Adnoddau Bryntirion, Daniel Thomas a Sian Davies, Uwch Reolwraig Gofal Canolfan Adnoddau Bryntirion

YN AML, amserau allweddol bywyd sy’n ein ysbrydoli i herio ein hunain a dyna’r gwir i Daniel Thomas.

Yn gynharach y flwyddyn yma, rhedodd Daniel Marathon Llundain gan godi swm rhagorol o £975 i Ganolfan Adnoddau Bryntirion.

Cafodd Daniel gymhelliant i gymryd yr her yma ar ôl i’w Dad, Robert cael ei ddiagnosio â dementia rhai blynyddoedd yn ôl.

Dywedodd Daniel, “Roedd fy nhad yn berson wirioneddol hyfryd – dw i’n gweld ei eisiau yn fawr. Dirprwy brifathro ymddeoledig, dyn hwylus a oedd wastod yn edrych am gyfleoedd i helpu eraill. Fe wnaeth e wahaniaeth positif i nifer o elusennau lleol a chenedlaethol ac fe weithiodd yn ddi-ddiwedd i gefnogi ei deulu, ei gymuned leol a phobl mewn angen. Yn y dwy flynedd olaf cyn iddo yn anffodus farw llynedd, roedd e’n byw yng Nghanolfan Adnoddau Bryntirion, yn Nhregaron.”

Parhaodd Daniel, “Roedd hyn yn linell-bywyd i ni. Nid yn unig bod y staff yn gweithio mor ddi-ddiwedd i wneud bywyd mor hwylus a chyflawn a phosib ond roeddent mor gefnogol, fe wnaethant wir ofalu am fy nhad a mewn gwirionedd, teimlo fel rhan estynedig o’r teulu. Fe wnaf wastad werthfawrogi popeth maent wedi gwneud. Mae cymryd yr her yma ond yn un ffordd bach iawn o ddangos pa mor werthfawrogol ydw i o’u cefnogaeth a hefyd i’r gymdeithas Alzheimer’s; dwy sefydliad sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ei ofal.”

Dywedodd Julie Hutchings, Rheolwraig Bryntirion: “Rydym wedi ein gorlaethu ag ymroddiad a haelioni Daniel a rydym mor werthfawrogol o’r rhodd hyfryd yma. Bydd y rhodd yn ein helpu i brynu offer i wneud bywyd y rhai sy’n ymweld â ni a sy’n byw yma yn fwy boddhaus. Mae ymroddiad Daniel wedi ein rhyfeddu ni gyd, mae ond meddwl am rhedeg y pellter hynny yn gwneud i fi deimlo’n flinedig!”

Dwedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Gofal, Cyngor Sir Ceredigion: “Mae ymdrech a rhodd Daniel yn arbennig ac yn gyfraniad hael i Ganolfan Adnoddau Bryntirion. Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaeth o safon a gofal hollbwysig i bobl lleol sy’n byw â dementia ac yn cefnogi eu teuluoedd.”

Yn awyddus i sicrhau bod Tregaron yn le cyfeillgar i dementia, mae gwaith wedi dechrau, a bydd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o dementia. Bydd sesiynnau ymwybyddiaeth dementia lleol yn parhau i cael eu cynnig, ac os ydych chi, eich busnes, sefydliad, ysgol neu grŵp cymunedol eisiau gwybod mwy am sesiwn Ffrind Dementia, awr o hyd, a sut allwch gymryd rhan, cysylltwch â Marcia Vale ar 01269 567411 neu Naomi McDonagh ar 01545 572105.

Trwy ddod yn Ffrind Dementia byddwch yn deall sut beth yw byw gyda dementia a throi’r dealltwriaeth yna mewn i weithred. Gall unrhyw un o unrhyw oedran fod yn Ffrind Dementia. Bwriad Ffrind Dementia yw dysgu mwy am dementia a’r ffyrdd bach gallwch helpu. Naill ai trwy ddweud i ffrind amdano neu ymweld â rhywun sy’n byw gyda dementia; mae pob gweithred yn bwysig ac all wneud gwir wahaniaeth i rhywun sy’n byw gyda dementia a’r rhai sydd agosaf atynt. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www. dementiafriends.org.uk.

Author