Home » Tir wedi’i brynu ar gyfer prosiect £8m Cylch Caron
Community Cymraeg

Tir wedi’i brynu ar gyfer prosiect £8m Cylch Caron

cylchcaronAR DYDD IAU, 24 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford bod tir wedi’i brynu ar gyfer Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn Nhregaron. Prynwyd y safle gyda £727,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Dadorchuddiwyd arwydd ar y safle gan yr Athro Drakeford, ynghyd â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn i nodi bod y tir wedi’i brynu. Bydd datblygiad Cylch Caron yn dod ag iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol ynghyd ar un safle gan gymryd lle Ysbyty Cymunedol Tregaron, cartref preswyl Bryntirion a’r feddygfa. Dywedodd yr Athro Drakeford: “Rwy’n falch o allu cyhoeddi’r cam pwysig hwn yn natblygiad canolfan newydd Cylch Caron. Y llynedd, fe wnes i a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, gyhoeddi £5.8m ar gyfer y ganolfan newydd, lle bydd gwasanaethau pwysig ar gael o dan yr un to ac yn agosach at y bobl sydd eu hangen.

“Trwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i fyw bywydau egnïol ac annibynnol.” Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a chadeirydd y bwrdd gwasanaethau lleol: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir allweddol i brosiect Cylch Caron, ac rydyn ni un cam yn agosach at ddarparu gwasanaethau tai, iechyd a chymdeithasol effeithlon a chynaliadwy o ansawdd uchel sy’n gwasanaethu cymuned wledig Tregaron a’r ardaloedd cyfagos. “Bydd y datblygiad yn fwy nag adeilad. Bydd yn hwyluso’r gwaith o ddarparu’r model gofal cymunedol integredig a ddatblygwyd ar gyfer Ceredigion, a bydd gan lawer mwy o gleientiaid fynediad gwell at y gwasanaethau hyn.”

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Mae hyn yn newyddion gwych i Dregaron. Rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion i gyrraedd y pwynt arwyddocaol hwn yn y prosiect. “Bydd y datblygiad yn ffordd o weithio’n integredig i sicrhau gwerth am arian a chaniatáu cyfleoedd newydd i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y boblogaeth leol. “Hoffwn dalu teyrnged i’n holl randdeiliaid, gan gynnwys ein staff a chydweithwyr yr awdurdod lleol am eu cyfraniad at gyrraedd y garreg filltir hon yn y prosiect.

Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â’n partneriaid i gyflawni’r datblygiad.” Mae datblygiad Cylch Caron, dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Lleol Ceredigion, yn bosibl diolch i gyfanswm buddsoddiad o £8.1m gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy yn un o rannau mwyaf gwledig Cymru. Bydd y ganolfan yn gartref i amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau i gleifion allanol, gwasanaethau nyrsio yn y gymuned, gofal nyrsio hirdymor a gofal dydd.

Mae yna hefyd gynlluniau ar gyfer 34 o fflatiau i bobl sydd angen mwy o ofal a chymorth i aros yn eu cartrefi, a chwe lle iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl nad oes angen iddyn nhw aros yn yr ysbyty, ond sydd angen mwy o gymorth cyn dychwelyd adref. Mae’r gwaith yn symud ymlaen ar y cynlluniau manwl ar gyfer prosiect Cylch Caron – bydd yr achos busnes llawn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac erbyn yr haf, bydd Landlord Cymdeithasol Cofrestredig wedi’i benodi. Chwaraeodd Elin Jones ran bwysig yn y datblygiadau hyn, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau.

AC Ceredigion drefnodd y cyfarfod cychwynol rhwng y Gweinidog a grwp o feddygon lleol, a berswadiodd Llywodraeth Cymru o’r angen am ddechrau o’r newydd wrth gynllunio dyfodol Bronglais a’r NHS yng Nghymru wledig. Ers hynny, comisiynwydd Adolygiad Longley, a arweiniodd at sefydlu grwp cydweithredol y canolbarth, a chamau gwirioneddol ymlaen fel agor 12 o welyau ym Mronglais a hysbysebu swyddi newydd arbenigol yn nhriniaeth y galon a meysydd eraill. Meddai Elin Jones: “Mae’n destun balchder i mi y bydd ardal Tregaron yn gartref i’r prosiect gofal iechyd cymdeithasol integredig, modern hwn. “Bydd nifer o gyfleusterau yng Nghylch Caron.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau y bydd chwe gwely yn cael eu darparu i gymryd lle’r Ysbyty presennol. Bydd hefyd yno feddygfa, ac amrywiaeth o lety preswyl a gofal, yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol a’r drydedd sector. “Ni ddylai’r Gwasanaeth Iechyd anghofio’n hardaloedd gwledig. Y ffordd ymlaen, yn fy marn i, yw i integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol yn llawn. Mae’r buddsoddiad yma yn hwb i ardal Tregaron, a gobeithio bydd yn fodel y bydd ardaloedd eraill am ei efelychu.”

Author