Home » Lansio Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig
Community Cymraeg

Lansio Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig

Yr Athro Chris Thomas; Dr Rachel Rahman; Yr Athro Mark Drakeford AC: Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth.
Yr Athro Chris Thomas; Dr Rachel Rahman; Yr Athro Mark Drakeford AC: Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth.
Yr Athro Chris Thomas; Dr Rachel Rahman; Yr Athro Mark Drakeford AC: Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy
Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth.

DDYDD IAU 24 Mawrth lansiodd Prifysgol Aberystwyth y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn lansiad Canolfan Rhagoriaeth Gofal Iechyd Gwledig gan yr Athro Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Golyga sefydlu’r ganolfan newydd y bydd Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio’n agos iawn gyda Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau unigryw o ddarparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig megis canolbarth Cymru.

Bydd y Ganolfan hefyd yn cefnogi amgylchedd ymchwil deniadol i gydweithwyr clinigol mewn sefydliadau iechyd partner. Dywedodd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig: “Mae darparu gofal iechyd i boblogaethau gwledig yn heriol, nid yn unig yn y DG ond hefyd mewn gwledydd datblygedig ac sy’n datblygu o amgylch y byd. Nid yw ceisio mynd i’r afael â’r heriau unigryw o ofal iechyd gwledig drwy estyniad syml o ymagweddau trefol yn effeithiol ac aml ni fyddant yn ystyried yr heriau o ddaearyddiaeth leol, naws diwylliannol, ac arbedion maint.

“Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o’r leoliad, sydd wedi’i gwreiddio yn y gymuned wledig o Ganolbarth- Gorllewin Cymru, i ddarparu ymchwil arloesol a dylanwadol sy’n llywio darpariaeth gofal iechyd gwledig ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a’r Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru ar y prosiect newydd cyffrous hwn. Rydym yn gwybod bod yr heriau sy’n wynebu darparu gofal iechyd gwledig yn niferus ac yn amrywiol ac ynghyd â’n partneriaid, byddwn yn cymryd ymagwedd ddyfeisgar ac arloesol er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy a pharhaol, ac sydd o fudd gwirioneddol i gymunedau yng Nghanolbarth- Gorllewin Cymru.”

Dywedodd Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Rhaglen Glinigol Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru a meddyg teulu yn y Borth, Ceredigion: “Bydd y Ganolfan Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle cyffrous i’r staff clinigol presennol a’r dyfodol sy’n gweithio yng Nghanolbarth Cymru i gymryd rhan mewn ymchwil a phrosiectau arloesi, a fydd yn datblygu atebion i’r heriau o ddarparu gofal iechyd gwledig. Un o’r blaenoriaethau cyntaf fydd adeiladu ar y profiad mewn telefeddygaeth sydd eisoes yn bodoli yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais i ddatblygu’r defnydd o dechnoleg, fel y gellir darparu gofal arbenigol yn nes at gartrefi pobl ar draws Canolbarth Cymru.”

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth rôl allweddol i’w chwarae wrth wella ffyniant a lles yng nghymunedau gwledig Cymru, ac mae’r Ganolfan newydd hon yn un o glwstwr o fentrau newydd i wneud hynny. Mae heriau gofal iechyd gwledig yn gofyn am feddwl mewn modd rhyngddisgyblaethol, ac felly mae’n wych i weld yr ystod o arbenigedd y gallwn ddarparu mewn ymateb. Bydd prifysgolion a phartneriaid eraill ledled Cymru hefyd yn cyfrannu at fenter y Gweinidog yn y meysydd sy’n gryfder iddynt, ac felly rhyngom rwy’n gobeithio y gallwn yrru newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn meddwl a gwneud gofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru yn esiampl i’r byd .”

Author