NID Duw pell yw’r Duw Cristnogol, ond grym daionus a chyfiawn sy’n sefyll gyda’n nyrsys ar y llinell biced a chyda’r ceiswyr lloches sy’n glanio ar draethau’r Sianel, meddai arweinydd Cristnogol Cymreig yn ei Neges Flwyddyn Newydd.
‘Yn y dyddiau ofnadwy hyn i gynifer o bobl yma yn ein gwlad ni ac yn rhyngwladol, fe gredwn ni y bydd cynllun tragwyddol Duw ar ein cyfer yn goresgyn ffolineb dynion yn y pen draw,’ medd y Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli Cristnogion mewn 350 o gapeli ledled Cymru.
‘Yn y cyfamser, mae stori’r Hen Destament yn parhau i fod yn stori i’n hamserau ninnau hefyd. Y mae ymadawiad ffoaduriaid o Wcráin yn ganlyniad uniongyrchol i Ffaro o’n dyddiau ni’n ceisio ymestyn a helaethu ei ymerodraeth. Y mae gwrthdrawiadau ac erledigaethau eraill yn y Dwyrain Canol ac Affrica yn gyrru niferoedd dirifedi o geiswyr lloches i groesi’r Sianel, yn union fel y gwnaeth yr Israeliaid groesi’r Môr Coch. Nid yw’r dyfroedd yn agor i ffoaduriaid y dyddiau hyn, ond gallwn agor ein gwlad a’n calonnau iddyn nhw.
‘Ac yn ein cymunedau, mae’n dorcalonnus fod nyrsys a staff ymroddgar a gofalgar y GIG wedi’u gyrru i streicio fel gweithred pan nad oes dim arall yn tycio. Mae’n profi fod anghyfiawnder, cyflwr sydd i’r gwrthwyneb i natur Duw, yn medru bod yn economaidd yn ogystal ag yn wleidyddol.
‘Yn y flwyddyn 2023, boed i ni droi’r dudalen i neges y Testament Newydd, ble mae cariad Duw, fel ag y datguddiwyd yn Iesu Grist, yn goroesi’r cylch diddiwedd o anghyfiawnder, trachwant, casineb a dioddefaint. Byddai’r fath benderfyniad yn gwneud y byd hwn yn un tra gwahanol ac yn lle cymaint yn well i ni a chenedlaethau’r dyfodol fyw ynddo. Dymunaf i bawb Flwyddyn Newydd Dda a Bendithiol.’