Home » Gofal iechyd dwyieithog canmol
News

Gofal iechyd dwyieithog canmol

Lisa Gostling
Lisa Gostling

MAE BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA wedi cyhoeddi’r tri sydd wedi cyrraedd rownd derfynol category ‘Darparu Gofal Iechyd Dwyieithog’ yng ngwobrau staff Gorau Iechyd eleni. Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn trefnu gwobrau Gorau Iechyd bob blwyddyn er mwyn cydnabod a gwobrwyo cyraeddiadau anhygoel ein staff a’n gwirfoddolwyr, y mae llawer ohonynt yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl yn eu gwaith er lles ein cleifi on a defnyddwyr gwasanaethau. Eleni, cafwyd 100 enwebiad o bob rhan o Geredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo Gorau Iechyd, a noddir gan Health Shield ym Mharc y Scarlets, Llanelli, nos Wener 16 Ionawr. Dywed Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Mae’r enwebiadau hyn yn adlewyrchu rhai o’r gofal o’r safon uchel mae llawer o’n staff a’n gwirfoddolwyr yn ei roi i gleifi on, ac mae’n tynnu sylw at ymdrechion a chyfl awniadau arbennig y tu hwnt i’w gwaith o ddydd-i-ddydd.” Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg ymhlith cleifi on a staff. Mae’r categori ‘Darparu Gofal Iechyd Dwyieithog’ yn ceisio cydnabod staff Hywel Dda sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol mewn darparu gofal iechyd yn newis iaith y claf.

Sef DVD dwyieithog i’w ddefnyddio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n adnodd i addysgwyr iechyd sy’n eu galluogi i addysgu pobl ifanc am les emosiynol a materion iechyd meddwl yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Datblygwyd yr adnodd arloesol hwn gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a Phobl Ifanc ac mae’n unigryw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae athrawon a disgyblion yn dweud ei fod yn adnodd da sy’n hawdd i’w ddefnyddio, a bod y natur ryngweithiol yn ei wneud yn ddeniadol. Angela Jones, Ymwelydd Iechyd am ei hymdrechion i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gwaith.

Mae wedi lansio grwp babi a rhiant dwyieithog llwyddiannus yn Hwlffordd sy’n mynd o nerth i nerth. Yn ogystal daeth Angela i’r brig yng ngwobrau Twf Shwmae yn ddiweddar am ei gwaith, sy’n dangos ei hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd dwyieithog. Y Tîm Orthopedig Adferiad Gwell ar ôl Llawdriniaeth (ERAS) yn Ysbyty Tywysog Philip am gynhyrchu llyfrynnau gwybodaeth cleifi on a phosteri dwyieithog ar gyfer cleifi on amnewid clun a phenglin.

Mae’r tîm yn gweld bod creu amgylchedd dwyieithog yn tawelu meddwl cleifi on am fod eu dewis iaith yn cael ei werthfawrogi, sy’n helpu cleifi on i ddeall eu gofal tra yn yr ysbyty a’u hadferiad ar ôl llawdriniaeth. Mae staff Cymraeg o fewn y tîm wrth law i gyfathrebu â chleifi on iaith Gymraeg, ac mae adborth cleifi on a’u teuluoedd yn gadarnhaol. Dywed Jonathan Burton, Prif Weithredwr Health Shield: “Mae cael eich cydnabod am wneud gwaith arbennig yn gyrhaeddiad mawr mewnunrhyw broffesiwn, ond mae hyn yn fwy arbennig gyda Gwobrau Staff Gorau Iechyd Hywel Dda. Ar ran pob un ohonom yma yn Health Shield hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. “Hoffem ddymuno pob lwc i bawb yn y gwobrau, a da iawn am gyrraedd y cam hwn. Rydych yn haeddu cydnabyddiaeth gan eich bod chi’n aml yn mynd y tu hwnt i’r galw.”

Author