Home » Llysgenhadon Ifanc LleCHI Gwynedd yn dathlu eu treftadaeth
Gwynedd North Wales

Llysgenhadon Ifanc LleCHI Gwynedd yn dathlu eu treftadaeth

MAE Cyngor Gwynedd ar ran ystod o fudd-ddeiliaid yn datblygu enwebiad i geisio sicrhau statws safle treftadaeth y byd i dirwedd llechi gogledd orllewin Cymru sy’n cynnwys chwe ardal allweddol.

Ochr yn ochr â’r gwaith o ddatblygu’r enwebiad, mae’r Cyngor wedi sicrhau arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cynllun Lle Arbennig, Cronfa Partneriaeth Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig, yn cael ei adnabod fel Cynllun ‘LleCHI’. Mae’n canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedol, grymuso lleol, gwella cyrchfannau, adfywio cymunedol a chodi balchder.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd: “Rydym wedi mynd ati godi ymwybyddiaeth yn rhai o’n hysgolion cynradd ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Archifau i Ysgolion ac artistiaid i greu darnau o waith celf trawiadol sydd wedi eu harddangos yn lleol ac wedi eu rhannu ar ffurf fideo.

“Enghraifft ddiweddar o hyn ydi’r ffaith fod gwaith celf disgyblion Ysgol y Felinheli wedi ei drosglwyddo i’r wal amddiffyn rhag llifogydd yn y pentref.”

Mae’r cynllun Llysgenhadon Ifanc Uwchradd hefyd yn rhan o brosiect LleCHI ac yn ymgais i ddod a phobl ifanc ardaloedd Llechi Cymru at ei gilydd, trwy gyfres o weithdai, ymweliadau a digwyddiadau yn eu hyfforddi a’u datblygu i ddod yn Llysgenhadon Ifanc i’r Cais Treftadaeth Byd.

Ers Mai 2019, mae criw o hyd at 15 o bobl ifanc ar draws y sir wedi bod yn dod ynghyd yn dilyn proses recriwtio ar y cyd gydag Amgueddfa Lechi Cymru, ac wedi llu o brofiadau amrywiol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Thomas: “O ysgrifennu blogs a dylunio logo i ymweld â’r ceudyllau dan do yn Llechwedd a theithio ar y wifren wib yn Zipworld Bethesda – mae’r prosiect llysgenhadon ifanc LleCHI wedi cynnig profiadau arbennig i’r bobl ifanc.

“Fe gawsant hefyd gyfarfod rhithiol gydag Asesydd ICOMOS i’r cais Safle Treftadaeth y Byd, cyfrannu mewn paneli trafod a mynychu amryw o ddarlithoedd a digwyddiadau.

“Er bod y cyfnod clo dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu addasu profiadau’r bobl ifanc, rydym wedi llwyddo i gynnal sesiynau rheolaidd yn rhithiol.”

Mae’r llysgenhadon wedi cael cyfle lleisio a helpu i olygu fideo o’u profiadau, trafod datblygiadau Boston Lodge Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn ogystal â holi’r gôl-geidwad rhyngwladol Owain Fôn Williams am sut mae tirwedd chwarelyddol Dyffryn Nantlle yn ysbrydoli ei waith celf.

Hefyd, mae’r bobl ifanc hefyd wedi bod yn trafod gydag artistiaid lleol sy’n creu murluniau yn ein cymunedau llechi, ac yn fwy diweddar holi’r awdur Angharad Tomos am ei nofel Y Castell Siwgr. Mae hyn wedi arwain at weithdai difyr gyda Chastell Penrhyn i ddysgu am eu harddangosfa a hanes trefedigaethol ‘Beth yn y Byd’.

Mae adborth gan y bobl ifanc wedi bod yn bositif iawn, gyda Cian Rhys yn dweud: “Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle o gyfrannu i’r cais yma a byddwn wrth fy modd pe byddwn yn sicrhau’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a fy mod wedi cyfrannu i sicrhau fod hanes y diwydiant yn cael ei gadw yn fyw yn y cof am flynyddoedd i ddod.”

Ceir gipolwg o brofiadau’r llysgenhadon ifanc ar eu tudalen YouTube

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r cynllun neu eisiau gwybod mwy cysylltwch drwy ebostio [email protected]

Author