Home » Ogi yn dod â rhaglen STEM ryngweithiol i ysgolion y de
Cymraeg South Wales Vale of Glamorgan

Ogi yn dod â rhaglen STEM ryngweithiol i ysgolion y de

Disgyblion ym Mro Morgannwg yw’r cyntaf yng Nghymru i elwa o weithdai addysg gwyddoniaeth newydd, a’r rheini’n cael eu darparu gan y cwmni rhyngrwyd o Gymru, Ogi.   

Gweithdai yw’r rhain sy’n cael eu darparu ar y cyd â Science Made Simple, ymarferwyr sydd ar flaen y gad yn y maes addysg ryngweithiol. Mae’r rhaglen yn ceisio dod â thechnoleg band eang yn fyw, gan helpu ysgolion i fanteisio ar wibgysylltiad a dangos drwy’r holl gwricwlwm newydd sut mae pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn cael eu defnyddio yn y byd go iawn.  

Cafodd y rhaglen beilot gychwynnol ei lansio yn ystod tymor yr hydref mewn tair ysgol yn Llanilltud Fawr, ac roedd hynny’n cyd-fynd â’r broses o gwblhau rhaglen waith band eang gychwynnol Ogi yn y dref ym Mro Morgannwg.

Bu dosbarthiadau o ddisgyblion o flynyddoedd 5-9 o Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Ysgol Gynradd St Illtyd ac Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn cymryd rhan yn y rhaglen beilot, a honno wedi’i dylunio a’i darparu gan Science Made Simple a rhai o beirianwyr Ogi.  

Meddai Sarah Vining, Pennaeth Brand ac Ymgysylltu Ogi: “Ryn ni’n sôn llawer am fanteision gwibgysylltiad band eang fan hyn yn Ogi, ac mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion adeiladu eu darn nhw o’r pos, gan ddysgu mwy am y dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio bob dydd.” 

Yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, ar ôl gwasanaeth a ddangosodd sut mae’r sbectrwm electro-magnetig yn cael ei ddefnyddio i drosglwyddo gwybodaeth – a sut mae golau’n teithio drwy ffeibr – cymerodd y disgyblion ran mewn gweithdy electroneg lle buon nhw’n adeiladu ac yn sodro eu darn eu hunain o rwydwaith. Wrth wneud hynny, roedden nhw’n efelychu sut mae data’n cael ei anfon drwy ddefnyddio bwrdd cylched, gwrthyddion, cynwysyddion, transistorau a goleuadau LED.  

online casinos UK

Dywedodd Ms Pearson, athrawes blwyddyn 5 yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant: “Ryn ni wastad yn teimlo’n gyffrous pan fydd cyfleoedd yn yr ysgol i ddatblygu gwyddoniaeth, a phynciau STEM yn enwedig. Mae’r gweithdai rhyngweithiol wedi rhoi cyfleoedd yn y ‘byd go iawn’ ac roedd y cymorth a roddodd Ogi yn hynod o ysbrydoledig, yn procio’r meddwl, ac yn rhoi enghraifft weledol i’r disgyblion o sut mae cylchedau trydanol yn cael eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd.

“Roedd yr holl fwynhad, yr hyder a’r trafodaethau a welson ni ar ôl y sesiwn yn dangos yr effaith a gafodd y tîm ar yr holl ddysgwyr.”

Meddai Dan Reed o Science Made Simple, arweinydd y sesiwn: “Roedd hi’n wych gweld y disgyblion yn ymroi, yn dysgu sgiliau newydd fel sodro, ac yn gweld y theori’n troi’n realiti wrth i’r sesiwn fynd yn ei blaen. Mae eu brwdfrydedd nhw’n ysbrydoli rhywun cymaint. Fe adawodd pawb gyda chit oedd yn gweithio i’w ddangos i’w teuluoedd gartref. Roedd pawb yn wên o glust i glust ar ddiwedd y dydd.” 

Yn dilyn y rhaglen beilot lwyddiannus, mae Ogi bellach yn awyddus i ehangu’r rhaglen i ysgolion ledled y de yn 2023.  

Ychwanegodd Sarah Vining o Ogi: “Dyma genhedlaeth sy’n dibynnu’n drwm ar fand eang a chysylltiad da i gael addysg gartref, i gael adloniant, ac i gael cymorth yn ystod y pandemig. Felly, er bod band eang yn wych i chwarae gemau a chadw mewn cysylltiad ’da ffrindiau, ryn ni’n awyddus i greu cyffro am y dechnoleg sydd y tu ôl i’r ‘hud’ hefyd, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o beirianwyr a gwyddonwyr data.   

“Mae’r grwpiau hyn wedi dangos dealltwriaeth dda a gwerthfawrogiad o sut mae band eang yn gweithio’n fewnol, gan gymryd dim yn ganiataol wrth iddyn nhw ddod i ddeall y wyddoniaeth sy’n eu cadw nhw wedi’u cysylltu â’r byd o’n hamgylch ni.

“Dyna pam mae hi’n hanfodol ein bod ni’n parhau i helpu ysgolion i gael cyfleoedd fel hyn, sy’n dangos sut mae’r pynciau STEM hollbwysig yn cael eu defnyddio yn y byd go iawn.”

Author