Home » Dr Meredydd Evans a’i chwerthin iach
Uncategorised

Dr Meredydd Evans a’i chwerthin iach

PRYNHAWNDDYDD o Ebrill ydoedd. Minnau’n ciniawa yn y Llyfrgell Genedlaethol ar wahoddiad Merêd. Braint oedd cael rhannu bwrdd â’r ebol ifanc a oedd yn ei nawdegau. Doedd dim pall ar ei sgwrs. Prin fod angen i mi ei borthi. Roedd y cof yn loyw a’r chwerthiniad yn iach. Yn ôl ei arfer, ac fel prawf o’i ddiddordeb ysol mewn pobl, holai fy hynt a pha brosiect oedd gen i ar y gweill.

Mentrais ddweud fy mod yn ymchwilio i hanes Niclas y Glais. Os do, cefais wybod am gysylltiad Tomi’r Llety, Pentregalar, â Blaenau Ffestiniog cyfnod plentyndod Merêd. Fe’i cofiai’n pregethu yn un o’r capeli lleol a’r lle dan ei sang ac un gŵr dieithr, anesmwyth ei olwg, yn y gynulleidfa. Neb yn ei adnabod. Ac roedd pawb yn adnabod pawb yr adeg hynny. Wel, aelod o’r gwasanaethau cudd, wrth gwrs, yn clustfeinio ar y comiwnydd yn y pulpud i gasglu tystiolaeth rhag ofn y byddai’r sefydliad am ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth rhyw ddydd.

Clywais hanes cymeriade megis Dafydd Canada a Johnny Coparet a’r criw eraill o Sosialwyr fydde’n ymgynnull bob tro y deuai T. E. Nicholas i’r parthau. ‘Bydde’n fater o chargo’r batris wst ti pan fydde Niclas yn dŵad i seiadu. Mi fydde’r hogia yma’n darllen y ‘Daily Worker’ ac yn selogion yr Ysgol Sul’, meddai. Addawodd ymchwilio ymhellach ar fy rhan ymhlith ei gysylltiade yn ardal Stiniog. A dyna a wnaeth. Daeth galwad ffôn yn y man.

Meddyliwch. Gŵr a oedd dros ugain mlynedd y tu hwnt i oed yr addewid yn barod i wneud gwaith caib a rhaw o’r fath ar fy rhan. Ond dyna’r dyn ydoedd y Dr Meredydd Evans. Clywsom yn ei angladd yng Nghwm Ystwyth ei fod yr un mor ymholgar a chymwynasgar ynghylch materion yn ymwneud â’r genedl Gymreig ychydig ddyddie cyn ei farwolaeth.

A gwyddai’n dda am y Coparet yn Stiniog am mai yno’r aeth i weithio ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed. Ond ni fu yno’n hir. Mentrodd ar lwybr addysg a’i harweiniodd i Princetown a Boston yn yr Unol Daleithiau. Cyfeiria’r Dr at ei ddoethuriaeth mewn Athroniaeth. Tra oedd yno recordiodd ganeuon gwerin Cymraeg ar label Folkways a ddyfarnwyd ymhlith y gorau o’u bath i’w cyhoeddi yn 1954 gan y New York Times. Roedd yn ddyledus i’w fam am feithrin ei ddiddordeb mewn canu gwerin gan y byddai hi’n canu degau ohonyn nhw oddi ar ei chof.

Dychwelodd i Gymru ar ôl i gyfaill iddo ei gyfarch ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol trwy ddweud ‘sut wyt ti’r Ianci? Teimlodd i’r byw. Daeth yn ôl gyda’i wraig o Americanes, Phyllis Kinney, a’u merch, Eluned. A bois bach, am gyfraniad a wnaeth i fywyd athronyddol, gwleidyddol ac adloniannol Cymru.

Am ddeng mlynedd, fel Pennaeth Adran Adloniant BBC Cymru, bu’n gyfrifol am sefydlu rhaglenni fel ‘Disc a Dawn’ a ‘Fo a Fe’. Ond cefnodd ar y sefydliad er mwyn gweithredu ar lawr gwlad dros yr hyn a gredai oedd yn hanfodol er mwyn ffyniant ei genedl. Ni fu neb mor weithgar dros y Gymdeithas Alawon Gwerin na Merêd a Phyllis.

Gwnaeth ei farc cynt fel aelod o Driawd y Coleg pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor. Roedd ‘Triawd y Buarth’ yn un o ganeuon mwyaf poblogaidd y math newydd hwn o ganu ysgafn Cymraeg llawn harmonïau. Balch oedd o gael ei gyflwyno’n aml fel llais y ‘cwac, cwac’ yn y gân honno! Diffoddodd y cyflenwad trydan ym mast Pencarreg fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i sefydlu sianel deledu Gymraeg.

Ymddeolodd y ddau i Gwm Ystwyth gan fyw yno’n hwy nag y buont fyw yn unman arall. Nid Boston mo’r pentre. Ond Afallon oedd enw’r aelwyd. Gwelsant ddirywiad y bywyd Cymraeg yno dros 30 mlynedd. Mynnodd Merêd gynnal fflam yr achos yn Siloam gan gredu fod yna obaith lle bynnag y bo ychydig o oleuni. Doedd dim ofn marw arno, meddai mewn rhaglen deledu ddiweddar. Wrth gwrs, mae’r sawl sy’n ofni marw yn ofni byw. A doedd dim ofn byw ar Merêd. Cofleidiodd fywyd.

Ond y ddelwedd arhosol sy gen i o ddiwrnod ei angladd yw’r cloc uwchben y pulpud. Roedd wedi rhoi’r gore i gerdded am hanner awr wedi dau ers slawer dydd. Felly mae yng Nghwm Ystwyth. Ond cofiaf hefyd y cinio yn y ffreutur a’r chwerthin iach yn Aberystwyth.

online casinos UK

Author