CANMLWYDDIANT y Rhyfel Byd Cyntaf oedd un ysgogiad i Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug eleni.
‘Dewis a Chydwybod’ yw teitl y Neges a baratowyd eleni, gyda chefnogaeth Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn a phrosiect Cymru Dros Heddwch. Rhannu delwedd wna pobl ifanc Sir y Fflint â’r byd bod angen adeiladu wal o heddwch, lle mae pob bricsen yn cyfrif a’r weithred o adeiladu’r heddwch yn pwysleisio bod pob dewis yn cyfrif.
Mae’r 23 o ddisgyblion Maes Garmon yn holi’r cwestiwn i weddill ieuenctid ledled y byd ‘Wyt ti am gyd-adeiladu efo ni?’
Wrth gyflwyno’r Neges o flaen dis gyblion cynradd Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug brynhawn Mercher 18 o Fai, bydd y disgyblion 14 oed yn sôn am beth yw ystyr heddwch iddyn nhw:
Heddwch yw dangos parch.

Heddwch yw teimlo’n ddiogel.
Heddwch yw undod.
Heddwch yw…
Dewis di.
Yn ôl Anni Llŷn a fu’n gweithio gyda’r disgyblion i greu’r Neges mewn sesiynau creadigol arbennig nôl ym mis Hydref llynedd: “Mi wnaethon ni waith trafod ac ymchwil i ddewisiadau pobl mewn bywyd, ac edrych ar wrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y criw yn teimlo’n gryf bod heddwch hefyd yn ddewis.
“Wrth gael ‘brainstorm’ greadigol, daeth un o’r criw â’r ddelwedd o wal o heddwch i’r wyneb. Dyma ddatblygu ar y syniad i greu’r ddelwedd gref yn y Neges bod adeiladu wal yn golygu bod pob bricsen yn cyfrif, yn union fel y broses o sicrhau heddwch ledled y byd.”
Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blynyddol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.
Cyfieithwyd y Neges i 27 o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, Manaweg a Chatalaneg ac am y tro cyntaf eleni, bydd poster o’r Neges ar gael mewn pum iaith hefyd, sef Cymraeg, Saesneg, Almaneg, Ffrangeg ac Arabeg
Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’r neges yn ystod rhaglen Shân Cothi, ‘Bore Cothi’, 10.00am- 12.00pm ar fore Mercher, 18 o Fai. Bydd y neges hefyd i’w chlywed a’i gweld ar raglen Heno (Tinopolis), S4C yr un diwrnod rhwng 7 a 7:30yh. Bydd hi ar gael i’w darllen a’i gwylio ar wefan yr Urdd, www.urdd.cymru/cy/dyngarol/heddwch-ewyllys-dda/
Yn ôl Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o draddodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd.
“Mae thema’r neges eleni, ‘Heddwch,’ yn parhau yn neges oesol ac amserol, gyda chymaint o bobl ledled y byd yn dioddef o dan orthrwm rhyfel, ffraeo a gwrthdaro.
“Wrth i ni gynnig cyfleoedd i’n pobl ifanc rannu profiadau a dysgu am sialensau pobl ifanc ledled y byd, mae’n gwneud iddynt sylweddoli yma yng Nghymru pa mor ffodus ydynt o fyw mewn cymdeithas wâr, heddychlon.”
O fewn y Neges, dywed y disgyblion:
…rydyn ni’n dewis dangos parch.
…rydyn ni’n dewis helpu eraill.
…rydyn ni’n dewis cymryd cyfrifoldeb.
…rydyn ni’n dewis derbyn eraill fel ag y maen nhw.
Bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd i’w chlywed ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016 brynhawn Mercher, Mehefin 1af. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd eleni ar dir Ysgol Uwchradd y Fflint o’r 30 Mai i’r 4 Mehefin 2016.
Add Comment