Home » Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd
Cymraeg

Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

CANMLWYDDIANT y Rhy­fel Byd Cyntaf oedd un ysgogiad i Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru a grëwyd gan ddis­gyblion Ysgol Uwchradd Maes Gar­mon, Yr Wyddgrug eleni.

‘Dewis a Chydwybod’ yw teitl y Neges a baratowyd eleni, gyda chef­nogaeth Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn a phrosiect Cymru Dros Hed­dwch. Rhannu delwedd wna pobl ifanc Sir y Fflint â’r byd bod angen adeiladu wal o heddwch, lle mae pob bricsen yn cyfrif a’r weithred o adeiladu’r hed­dwch yn pwysleisio bod pob dewis yn cyfrif.

Mae’r 23 o ddisgyblion Maes Garmon yn holi’r cwestiwn i weddill ieuenctid ledled y byd ‘Wyt ti am gyd-adeiladu efo ni?’

Wrth gyflwyno’r Neges o flaen dis gyblion cynradd Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug brynhawn Mercher 18 o Fai, bydd y disgyblion 14 oed yn sôn am beth yw ystyr heddwch iddyn nhw:

urdd1Heddwch yw dangos parch.

Heddwch yw teimlo’n ddiogel.

Heddwch yw undod.

Heddwch yw…

Dewis di.

Yn ôl Anni Llŷn a fu’n gweithio gyda’r disgyblion i greu’r Neges mewn sesiynau creadigol arbennig nôl ym mis Hydref llynedd: “Mi wnaethon ni waith trafod ac ymchwil i ddewisia­dau pobl mewn bywyd, ac edrych ar wrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y criw yn teimlo’n gryf bod heddwch hefyd yn ddewis.

online casinos UK

“Wrth gael ‘brainstorm’ greadigol, daeth un o’r criw â’r ddelwedd o wal o heddwch i’r wyneb. Dyma ddatblygu ar y syniad i greu’r ddelwedd gref yn y Neges bod adeiladu wal yn golygu bod pob bricsen yn cyfrif, yn union fel y broses o sicrhau heddwch ledled y byd.”

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blyny­ddol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.

Cyfieithwyd y Neges i 27 o ieithoe­dd, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, Manaweg a Chatalaneg ac am y tro cyntaf eleni, bydd poster o’r Neges ar gael mewn pum iaith hefyd, sef Cym­raeg, Saesneg, Almaneg, Ffrangeg ac Arabeg

Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’r neges yn ystod rhaglen Shân Cothi, ‘Bore Cothi’, 10.00am- 12.00pm ar fore Mercher, 18 o Fai. Bydd y neges hefyd i’w chlywed a’i gweld ar raglen Heno (Tinopolis), S4C yr un diwrnod rhwng 7 a 7:30yh. Bydd hi ar gael i’w darllen a’i gwylio ar we­fan yr Urdd, www.urdd.cymru/cy/dyn­garol/heddwch-ewyllys-dda/

Yn ôl Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o drad­dodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd.

“Mae thema’r neges eleni, ‘Hed­dwch,’ yn parhau yn neges oesol ac amserol, gyda chymaint o bobl ledled y byd yn dioddef o dan orthrwm rhy­fel, ffraeo a gwrthdaro.

“Wrth i ni gynnig cyfleoedd i’n pobl ifanc rannu profiadau a dysgu am sialensau pobl ifanc ledled y byd, mae’n gwneud iddynt sylweddoli yma yng Nghymru pa mor ffodus ydynt o fyw mewn cymdeithas wâr, heddychlon.”

O fewn y Neges, dywed y disgyblion:

…rydyn ni’n dewis dangos parch.

…rydyn ni’n dewis helpu eraill.

…rydyn ni’n dewis cym­ryd cyfrifoldeb.

…rydyn ni’n dewis derbyn eraill fel ag y maen nhw.

Bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd i’w chlywed ar lwyfan Ei­steddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016 brynhawn Mercher, Mehe­fin 1af. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd eleni ar dir Ysgol Uwchradd y Fflint o’r 30 Mai i’r 4 Mehefin 2016.

Author