Home » Gwyl dathlu pobl hyn yn dod i Theatr Felinfach
Cymraeg

Gwyl dathlu pobl hyn yn dod i Theatr Felinfach

theatrfelinfachGYDA THÎM pêl-droed rhyn­gwladol Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc mae’r cyflwynydd Dylan Ebenezer a’r cyn chwaraewr rhyn­gwladol Malcolm Allen ar grwydr i Bordeaux, Lens a Toulouse. Mae’r tair dinas yn wahanol iawn i’w gi­lydd a bydd y wibdaith hwyliog yn llawn gwybodaeth ddifyr ac awgry­miadau defnyddiol am bethau i’w gweld a’u gwneud ymhob un oho­nyn nhw.

Bydd Ar y Ffordd i’r Ffwti yn Ffrainc, nos Fercher, 1 Mehefin ar S4C, yn dangos y ddau ffrind wrth id­dyn nhw ymweld â’r dinasoedd sy’n gartref i gemau Grŵp B Cymru, yn ogystal â Dinard yn Llydaw, lleoliad gwesty carfan Chris Coleman.

“Fe aethom ar loop fawr rownd Ffrainc. Fi oedd yn gyrru a Malcolm oedd y co-driver ar y trip. Mae Bor­deaux yn lle p rydferth a chrand, tra bod Toulouse yn lle tlws ac ychydig yn fwy na Bordeaux,” meddai Dylan a fydd, ynghyd â Malcolm, yn rhan o’r tîm cyflwyno wrth i S4C dangos pob un o gemau grŵp Cymru ym Mhen­campwriaeth Euro 2016 yn fyw.

“Mae Lens yn lle bach iawn, a the­byg i rai rhannau o Gymru. Roedd pyl­lau glo wedi cau yno, lot o ddiweith­dra, ond mae’r bobl yn groesawgar iawn. Ar y llaw arall, roedd Dinard yn lle hyfryd a distaw. Cawsom aros yn y gwesty bydd carfan Cymru’n aros ynddo, ac mae o’n lleoliad perffaith i’r chwaraewyr gael dianc o wallgo­frwydd yr Euros,” eglurodd Dylan, sy’n wreiddiol o Aberystwyth ac yn byw bellach yng Nghaerdydd.

“Roedd mynd i Bordeaux yn ffan­tastig. Fi a Malcolm gyda’r to i lawr ar ein Citroen 2CV, a’r haul yn gwenu wrth deithio ar hyd y promenâd hy­fryd. Un o’r uchafbwyntiau eraill oedd cerdded allan o’r twnnel ar y cae yn y Stade Bollaert-Delelis yn Lens, yn ceisio dychmygu beth fydd chwaraewyr Cymru’n meddwl wrth iddyn nhw wneud yr un peth cyn y gêm yn erbyn Lloegr. Fe aethom i ymweld â mynwentydd y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngogledd Ffrainc, ac roedd hynny’n agoriad llygad i ni. “

Yn ystod eu hymweliad â Ffrainc, bydd Dylan a’i fêt o Ddeiniolen, Mal­colm yn cwrdd ag ambell gymeriad lliwgar ac yn blasu’r ddiod a bwyd lleol. “Fe wnaethon ni ddysgu sut i ddweud ‘coridor ansicrwydd’ yn Ffrangeg, sef un o hoff ddywediadau Malcolm yn y blwch sylwebu! Dwi ddim yn gwybod pa mor ddefnyddiol fydd hynny mewn tŷ bwyta!

“Ers mis Hydref y llynedd pan wnaeth Cymru ennill ei lle yn y rowndiau terfynol, dwi wedi bod yn trio peidio â meddwl gormod am ein gemau yn Ffrainc. Ond nawr mae’r build-up wedi dechrau go iawn, mae’r llyfrau sticeri mas ers sbel, mae sawl cân bêl-droed wedi’i rhyddhau – ac mae’r peth yn dechrau teimlo’n real iawn.”

Author