Home » Amgueddfa Ceredigion yn cael £10k o waddol y Teulu Ashley
Cymraeg

Amgueddfa Ceredigion yn cael £10k o waddol y Teulu Ashley

ceredigion12MAE CYFEILLION AMGUEDDFA CEREDIGION wedi cael £10,000 o Waddol y Teulu Ashley tuag at y prosiect ‘Dulliau Newydd – Gwisgo’n Grand’, a fydd yn galluogi llawer iawn mwy o bobl i weld casgliad gwisgoedd Amgueddfa Ceredigion.

Caiff y grant ei ddefnyddio i greu arddangosfa barhaol ar lefel y stryd, ar risiau gwreiddiol Theatr y Coli­seum, sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Bydd hynny’n cynnwys posteri gwreiddiol ac eitemau o’r casgliad gwisgoedd i gynrychioli oes aur y sgrin fawr a byd y theatr pan oedd y Coliseum yn ei hanterth. Bydd y drysau gwreiddiol yn mynd yn ôl yn eu lle ac fe gaiff y mosäig ar y llawr ei adnewyddu, gan greu mynedfa fwy amlwg i’r amgueddfa a denu mwy o bobl i mewn.

Mae Gwaddol y Teulu Ashley (Gwaddol Laura Ashley, gynt) yn elusen wedi cofrestru yn y Deyrnas Gyfunol, a’i nod yw cryfhau cy­munedau cefn gwlad, yn enwedig yng Nghymru, drwy ganolbwyntio ar elfennau cymdeithasol ac amgyl­cheddol.

Meddai Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Mae gan Amgueddfa Ceredigion gasgliad ben­digedig, go helaeth o wisgoedd, a’r rheiny mewn cyflwr da, er eu bod yn dyddio o Oes Fictoria tan y 1980au. Yn anffodus, nid oes bron dim o’r rheiny erioed wedi cael eu harddan­gos, a dim ond llond llaw ohonynt sydd i’w gweld yn yr arddangosfeydd parhaol.”

Yn ogystal â chreu’r arddangosfa newydd ar yr hen risiau, bydd yr ar­ian yn helpu i greu arddangosfa dros dro mewn lle amlwg yn yr haf, pan fydd yr holl ymwelwyr yn medru dod i’w gweld. Bydd y prosiect yn cych­wyn gydag arddangosfa dros dro o wisgoedd, ‘Pryd a Gwedd’, a fydd i’w gweld yn Amgueddfa Ceredigion o ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf tan ddydd Sul 16 Hydref 2016.

Ychwanegodd Carrie: “Mae Cyfeillion yr Amgueddfa wedi bod yn help aruthrol, a bydd y prosiect ‘Gwisgo’n Grand’ yn rhan hollbw­ysig o’r prosiect ehangach ‘Dulliau Newydd’ a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r amgueddfa drwy ddenu mwy o bobl, creu ffynonellau incwm a meithrin cysylltiadau â’r gymuned mewn modd creadigol.”

Mae ‘Gwisgo’n Grand’ yn rhan o’r prosiect ailddatblygu ehangach o’r enw ‘Dulliau Newydd’, sy’n werth £1.3m. Y nod yw diogelu dyfodol yr amgueddfa drwy greu cyfleoedd i gy­nhyrchu incwm a denu mwy o bobl drwy’r drysau. Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Lotri, CADW, Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion ac amrywiaeth o ymddir­iedolaethau a chronfeydd gwaddol.

Author