Home » Busnesau Aber cefnogi BID
Community Cymraeg

Busnesau Aber cefnogi BID

abercefMEWN ARDAL Gwella Busnes mae busnesau’n gweithredu ac yn ariannu cronfa fuddsoddi ar gyfer canol tref Aberystwyth. Codir ardoll o 1.25% ar werth ardrethol pob busnes cymwys er mwyn creu cronfa o fwy na miliwn o bunnau i’w fuddsoddi yn Aberystwyth dros bum mlynedd. Caiff yr arian ei wario ar raglen benodol o brosiectau a fydd yn rhoi pob cyfle i Aberystwyth lwyddo yn y cyfnod anodd hwn, a gwneud gwahaniaeth go iawn i’r dref yn y pum mlynedd dan sylw. Er mwyn sefydlu Ardal Gwella Busnes mae angen cynnal pleidlais ddemocrataidd o blith holl fusnesau’r Ardal Gwella Busnes arfaethedig.

Os bydd mwyafrif yn pleidleisio o blaid sefydlu Ardal Gwella Busnes, caiff cwmni newydd di-elw ei ffurfio – a bydd hwnnw’n cael ei reoli gan fwrdd o bobl fusnes leol – a fydd yn casglu treth gan yr holl fusnesau cymwys. Bydd y cyfraniadau hynny’n mynd at ariannu gwasanaethau a gwelliannau’r Ardal Gwella Busnes. Mae busnesau yn Aberystwyth wedi pleidleisio ar y cynnig BID. Derbyniwyd 97 pleidlais o blaid y cynnig, gyda 84 busnes yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Roedd 45% o’r rheiny a oedd yn medru pleidleisio wedi gwneud, sydd yn uchelach na’r cyfartaledd cenedlaethol o 40%. Nod yr AGB yw gwella’r ardal fel lle i weithio ac i ymweld ag ef.

Mae’r broses yma yn cael ei arwain gan grŵp llywio gwirfoddol o fobl busnes canol tref Aberystwyth o dan yr enw Aberystwyth ar y Blaen sydd wedi cael ei sefydlu ac wedi arwain proses o sefydlu’r AGB. Bydd y grŵp nawr yn ffurfio cwmni ‘nid er elw’ o bob busnes cymwys yn y dref – y rhai a fydd yn talu’r ardoll – waeth sut y gwnaethant bleidleisio. Bydd y cwmni AGB yn darparu prosiectau a gwasanaethau sydd wedi eu targedu sy’n newydd, unigryw a ddim yn cael eu darparu gan unrhyw asiantaeth neu sefydliad arall ar hyn o bryd. Mae Aberystwyth ar y Blaen am ddatblygu rhaglen pum mlynedd o welliannau yng nghanol y dref trwy gasglu ardoll wrth pob busnes cymwys.

Bydd potensial i gasglu ychydig dros £700,000 rhwng 2016 ac 2021 i’w fuddsoddi mewn rhaglen gynhwysfawr o welliannau. Gwneir pob ymdrech i ddod o hyd i arian cyfatebol o ffynonellau eraill. Caiff Aberystwyth ar y Blaen ei ariannu trwy godi ardoll o 1.25% ar werth trethiannol (GT) pob eiddo, neu uned busnes, sydd o fewn ffiniau’r AGB sydd a GT o £6,000 neu fwy. Ni fydd y busnesau sydd a GT is na hynny’n gorfod talu ardoll yr AGB.

Dywed y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol: “Trwy pleidleisio o blaid yr AGB, mae busnesau wedi dangos bod ganddynt yr archwaeth i wneud newidiadau yn lleol sydd o bwysigrwydd iddyn hwy, a gwella canol y dref yr un pryd. “Mae hyn yn amser cyffrous i Aberystwyth, a dwi’n ddiolchgar i Aberystwyth ar y Blaen am eu ymdrechion i greu AGB.”

Dywed Tony Bates o Cyfreithwyr Morris & Bates ac sydd hefyd yn aelod o Grŵp Llywio Aberystwyth ar y Blaen: “Mae’r gwaith caled yn dechrau nawr a dwi’n gobeithio y gallwn denu pobl efo gweledigaeth, craffter busnes a cred yn Aberystwyth fel lle delfrydol i weithio a byw. Byddwn hefyd yn hoffi gweld rheiny wnaeth bleidleisio ‘yn erbyn’ yn dod yn rhan o Fwrdd y Cyfarwyddwyr, fel ein bod yn cynnwys sbectrwm deinamig ac eang o syniadau a phersonoliaethau.”

Bydd y rhaglen yn ffocysu ar wella mynediad a chysylltiadau fel parcio a gosod Wi-Fi am ddim. Bydd hefyd yn edrych ar farchnata a hybu a chynnal ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus a meithrin perthynas gyda’r wasg leol. Bydd yn creu cymuned fusnes gryfach trwy ddatblygu symbyliad i fusnesau a chynlluniau mentora ac atgyfnerthu’r berthynas trwy weithio gyda’r awdurdodau lleol a gweithio gyda’r mentrau cyfredol er mwyn atal troseddau. Bydd y gwasanaethau hyn yn ychwanegol i’r rhai sy’n cael eu darparu gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth.

Author