Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Community Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

cylchteifiYM MIS Mawrth, buom yn ardal Cwm Cuch gyda Howard Williams i’n harwain. Gan gychwyn wrth dafarn y Nag’s Head, aethom ar daith gylch ar hen stad Clynfyw. Roedd Howard wedi paratoi taflen o nodiadau am nodweddion diddorol y daith i bawb, a chawsom fwynhau llwybr y Cerfluniau, eirlysiau wrth y miloedd, golygfa dda i lawr ar Afon Cych a’r Cwm, a chlywed am gysylltiadau â’r Mabinogi, hanes y stad a’r hen ardd furiedig. Aeth llawer ohonom i gael croeso a lluniaeth yn Nhafarn y Nag’s Head ar ôl cerdded. Taith hyfryd eto, ac roedd yn dda gweld rhai cerddwyr newydd yn ymuno â ni. Fis Ebrill 9fed, bydd Reg Davies yn arwain taith yn ardal Dinas ac Aber-bach.

Cychwynnwn o Faes Parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384 Cod post: SA42 0XG). O gyfeiriad Aberteifi, trowch i’r dde gyferbyn â lloches byses ar ôl mynd heibio’r troad i Bwllgwaelod). Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda. Awn ar daith gylch ddwy awr, tua 2.5 milltir, ar lwybrau i fferm Tre-wrach, lawr lôn dawel a llwybr da i draeth Aber-bach ac yn ôl ar y lôn i ddychwelyd i’r Capel. Bydd un llecyn a all fod yn fwdlyd, dwy sticil, ac esgyniad o ryw 400 troedfedd, y rhan fwyaf ohono ar y ffordd yn ôl i’r Capel, sy’n eithaf serth ar y dechrau. Gallwn ddisgwyl daith brydferth, hanesyddol gydag ymweliad â pherl o draethell anghysbell.

Ac wedyn bydd cyfle i gael lluniaeth yn nhafarndai Trefdraeth a Dinas a hefyd yng nghaffi Flas Fronlas, Trefdraeth. Ym mis Mai, 14eg, cerddwn yn ardal Cwm Soden a Chastell Bach, ger Cwm Tydu, gan adael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb. Howard Williams fydd yr arweinydd eto. Mae’r man parcio ryw 200 metr yn brin o Eglwys St Tysilio. O’r A487 rhwng Plwmp a Synod trowch i Gaerwedros, mynd trwy’r pentref a syth ymlaen, ar draws yr heol rhwng Llwyndafydd a Nanternis, tuag at Gwmtydu; ar ôl rhyw filltir trowch i’r dde tuag at yr eglwys.

Nid oes lle i fwy na rhyw 15 car ar y tir pwrpasol ond gallwn barcio’n ofalus hefyd ar y borfa ar hyd yr heolydd o bobtu’r gyffordd. Er hynny, fe fydd yn syniad da dod â chyn lleied o geir ag y bo modd, er enghraifft drwy gwrdd â gyrwyr eraill yng Nghwmtydu a rhannu ceir wrth fynd ymlaen. Dewch mewn da bryd i ddechrau fel arfer ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda. Awn ar daith gylch ddwy awr tua dwy filltir ar lwybrau da; dros gaeau i’r penrhyn i’r gogledd o Gwmtydu, ar lwybr yr arfordir i lawr i Draeth Cwm Soden (serth mewn mannau) ac wedyn lan y Cwm a’i lethr ddeheuol i’r Eglwys.

Bydd esgyniad o ryw 350 troedfedd, yn bennaf wrth ddringo’r llwybr serth gyda llawer o risiau ar y diwedd i gyrraedd yr eglwys. Wrth gerdded, cawn weld golygfeydd gwych o’r arfordir, blodau ar eu gorau, Castell Bach, caer amlwg o’r Oes Haearn, cwm prydferth, rhaeadrau annisgwyl, ac eglwys mewn llecyn hyfryd. Ac wedyn bydd cyfle i gael lluniaeth yn y Crown yn Llwyndafydd neu yn y Caffi yng Nghwmtydu. Fis Mehefin 11eg, cerddwn yn ardal Cilgerran a Llechryd gydag Emyr Phillips yn arwain, a hon fydd ein taith olaf y tymor hwn. Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson, 01239 654561 philippa.gibson@gmail. com

Dyddiadau’r teithiau nesaf: 9 Ebrill: Ardal Dinas ac Aber-bach Gadael maes parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384) (Cod post SA42 0XG), am 10.30yb. Arweinydd: Reg Davies 14 Mai: Cwm Soden, ger Cwm Tydu Gadael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams 11 Mehefin: Ardal Cilgerran a Llechryd Gadael maes parcio Neuadd Cilgerran (SN198 428) (Cod post SA43 2TE), am 10.30yb. Efallai bydd y man cychwyn yn newid yn nes at y dyddiad. Arweinydd: Emyr Phillips

Author