Home » Cyhoeddi rhaglen nos Eisteddfod 2016 BYDD SÊR blaenaf Cymru
Community Cymraeg

Cyhoeddi rhaglen nos Eisteddfod 2016 BYDD SÊR blaenaf Cymru

Cerddor enwog: Catrin Finch
Cerddor enwog: Catrin Finch
Cerddor enwog: Catrin Finch

BYDD SÊR blaenaf Cymru i’w gweld yn perfformio ar hyd a lled Maes yr Eisteddfod yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, yn ôl y trefnwyr, wrth iddyn nhw gyhoeddi rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau nos yn Y Fenni.

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod: “Mae rhaglen nos yr Eisteddfod wedi datblygu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf. Yn draddodiadol, dim ond cyngherddau oedd i’w cael gyda’r nos a’r rheiny’n glasurol iawn eu naws. Wrth i ni ddatblygu, rydym wedi ymateb i ofynion y gynulleidfa, ac mae pob math o weithgareddau yn digwydd ar y Maes gan geisio sicrhau bod rhywbeth i bawb yn ystod yr wythnos.

“Mae’r cyngherddau, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o’r arlwy yn ystod yr wythnos, ac rwy’n gobeithio ein bod wedi rhoi rhaglen a fydd yn apelgar at ei gilydd eleni. Mae gennym gymysgedd eang o genres cerddorol, o Big Band i glasurol ysgafn, a phop.

“Wrth gwrs, mae gennym bafiliwn newydd eleni, ac rydym yn hyderus y bydd yr adeilad hwn yn gwella’r profiad i’r gynulleidfa a’r artistiaid. A chyda dechrau newydd fel hyn, mae modd arbrofi a chyflwyno syniadau newydd, ac mae’r rhain yn cynnwys gig gyda Candelas, Yr Ods a Sŵnami, a noson yng ngofal Catrin Finch, Serenestial: Antur trwy Ofod ac Amser. Dwy noson wahanol iawn, sydd, wrth eu hychwanegu at weddill yr arlwy, yn creu wythnos o amrywiaeth pur, gyda’r cyfan o safon arbennig iawn.

“Mae poblogrwydd Llwyfan y Maes wedi ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf – dyma ganolbwynt y Maes i lawer, ac mae sicrhau bod y bandiau a’r perfformwyr gorau i’w gweld yma, ynghyd â rhoi llwyfan i ddoniau mwy lleol a newydd, yn rhan hollbwysig o’n gwaith. Eisoes cyhoeddwyd mai Huw Chiswell a’r Band fydd yn perfformio yn y slot fawr nos Wener, a braf yw gallu cyhoeddi’r nosweithiau eraill heddiw hefyd.

“I lawer, Maes B yw uchafbwynt yr Eisteddfod, a bydd y lein-yps eleni’n sicr o apelio at gefnogwyr y sîn Gymraeg. Yws Gwynedd yw prif artist nos Fercher, Y Reu, nos Iau, Y Bandana nos Wener, a Band Pres Llareggub ac Yr Ods nos Sadwrn. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fandiau’n fuan. A chofiwch fod tocynnau arbennig ar gael sy’n cynnwys mynediad i’r gig, i’r Maes ac i wersylla yn y Maes peByll.”

Author