Home » Dr Siôn yn croesawu Prosiect Cylch Caron
Community Cymraeg

Dr Siôn yn croesawu Prosiect Cylch Caron

Croeso i gynlluniau iechyd: Dr Sion James
Croeso i gynlluniau iechyd: Dr Sion James
Croeso i gynlluniau iechyd:
Dr Sion James

MAE MEDDYG teulu Tregaron, Dr Siôn James, yn croesawu prosiect Cylch Caron a fydd yn diogelu gwasanaethau iechyd a gofal iechyd lleol at y dyfodol.

Bydd Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn ganolfan gwbl integredig ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y dref a’r cyffiniau.

Dywedodd Dr James: “Yr egwyddor cyffredinol sy’n sail i’r prosiect hwn yw y dylai cleifion gael gofal mor agos i’w cartrefi â phosibl. Ym meddygfa deulu Tregaron, rydym eisoes yn gweithio ar y cyd ag Ysbyty Cymunedol Tregaron a chartref gofal Bryntirion er mwyn diwallu anghenion ein cleifion sy’n byw’n hirach ac sydd ag anghenion gofal mwyfwy cymhleth.

“Ar hyn o bryd rydym yn gwneud y mwyaf o’r cyfleusterau sydd gennym ond, pan gaiff y ganolfan newydd ei hadeiladu byddwn yn gweld manteision nid yn unig o safbwynt yr adeilad pwrpasol, modern, ond hefyd y gwerth ychwanegol a geir o gydweithio’n agos ar draws ffiniau proffesiynol – canlyniad cyfathrebu gwell yw gwasanaeth gwell i’n cleifion.

“Mae’r gymuned iechyd leol eisoes yn creu’r seilwaith ar gyfer pan fydd yr adeilad yn cael ei greu. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i’n cleifion: o drin mân anafiadau a llawdriniaethau i sgrinio ar gyfer cyflyrau megis diabetes, cynnal clinigau bydwragedd a llawer iawn mwy.

“Rwy’n byw yn ardal Tregaron, cefais fy magu yma ac yn byw yma nawr gyda fy ngwraig a 3 o blant. Rwy’n gobeithio tyfu’n hŷn yma a defnyddio Canolfan Cylch Caron fy hunan. Edrychaf ymlaen at weithio ar y prosiect er mwyn gwneud iddo weithio ar gyfer y gymuned leol.”

Bydd Cylch Caron yn darparu adeilad newydd sbon lle cynhelir g w a s a n a e t h a u iechyd a gofal c y m d e i t h a s o l ochr yn ochr gyda llety arbenigol i unigolion ag anghenion gofal yng nghanol Tregaron. Bydd yr adeilad newydd hwn yn disodli ysbyty c y m u n e d o l Tregaron, cartref gofal Bryntirion a meddygfa deulu Tregaron.

Ar ymweliad ddydd Iau 24 Mawrth, dywedodd Mark D r a k e f o r d , G w e i n i d o g Iechyd a Gwasanaethau Cymdei thas o l , fod tir wedi’i brynu ar gyfer prosiect Cylch Caron. Mae’r datblygiad, a arweinir gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol Ceredigion, yn cynrychioli buddsoddiad o £8.1m gan Gyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru i gyflawni gweledigaeth gwasanaethau cynaliadwy yn un o rannau mwyaf gwledig Cymru.

Author