Home » Dathlu arwyr arbennig Cymru yng nghyfnod Covid
Cymraeg

Dathlu arwyr arbennig Cymru yng nghyfnod Covid

FE FYDD 2020 yn aros yn hir iawn yn y cof fel blwyddyn na welsom ni erioed mo’i thebyg. Dyma flwyddyn y Pandemig – ac wrth i ni agosáu at y Nadolig a ffarwelio â’r flwyddyn mae’n bwysicach nag erioed inni gydnabod dewrder ein pobol a’n cymunedau.

Bydd rhaglen arbennig  sef Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 ar S4C ar nos Wener, 18 Rhagfyr yn dathlu a dweud diolch wrth sawl grŵp a sawl unigolyn am eu gwaith hynod yn ystod  pandemig Covid-19 gan dalu teyrnged i arwyr tawel y cyfnod clo.

O ofalwyr mewn cartrefi gofal, i’r rheiny fu’n ateb y galw ac yn gwnïo PPEs am oriau maith, i’r rheiny gasglodd arian i goffrau sawl bwrdd iechyd, ac i’r rheiny gollodd anwyliaid – mae pawb â’u straeon a phob stori yn werth ei chlywed.

Yng nghwmni Elin Fflur ac Owain Tudur Jones fe fyddwn ni’n dweud diolch trwy gyflwyno tlws gan y gof, Ann Catrin, i’n harwyr ar ran S4C a Chymru gyfan. Mae Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 yn addo deffro’r holl emosiynau – fe fydd y dagrau, y gwenu a’r chwerthin law yn llaw – ond, yr hyn fydd yn aros yn y cof fydd y ‘dewrder’.

Fe fydd sawl wyneb enwog yn ymuno â’r ddalthu gan gynnwys Michael Sheen, Cerys Matthews, Ben Cabango a Geraint Thomas.

Yn ystod rhaglen awr o hyd byddwn yn  clywed straeon 10 mudiad ac unigolion o bob oedran, dros Gymru gyfan gan gynnwys Rhythwyn Evans o Silian, Ceredigion, Banc Bwyd Cwmaman a Joseff, 10 oed o Gaerdydd.

Cafodd Rhythwyn ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore ac fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 91 oed trwy gerdded o amgylch ei dŷ 91 o weithiau a chodi £50,000 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Meddai Rhythwyn yn ystod y rhaglen: “O’n i wedi gweld beth wnaeth Capten Tom ei gyflawni ac o’n i’n meddwl, i raddau, gallwn i wneud rhywbeth tebyg.”

Y Capten Tom Moore wnaeth ysbrydoli Joseff hefyd i osod yr her o gerdded 100 milltir ym mis Mehefin a chodi £2,000. “Penderfynais i ar yr elusen Arch Noah (Ysbyty Plant Cymru) oherwydd roedd fy mrawd Steffan yn sâl iawn a phan dw i’n mynd lawr i’r clinig rydw i’n gweld y doctoriaid a’r nyrsys yn gweithio yn galed iawn.”

Meddai Rhian, mam Joseff a Steffan: “Da ni’n mor ddiolchgar i’r staff. Doedd dim byd yn ormod iddyn nhw. O’n nhw’n rhoi pob darn o’u hegni mewn i’w gofal. Nid yn unig i Steffan, ond i bob plentyn oedd yna. A da ni’n gwybod roedd e’n cael y gofal gorau galle fe.”

Mae Banc Bwyd Cwmaman – un o’r mudiadau sy’n cael clod yn ystod y rhaglen Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 – wedi helpu dros 2,000 o bobl yn ystod y pandemig Covid-19.

online casinos UK

Un o’r rheiny yw Sarah Davies a’i theulu sy’n cynnwys pump o blant. Meddai Sarah: “Mae 2020 wedi bod yn anodd iawn. Ar ddechrau’r lockdown dim ond un cyflog oedd yn dod mewn achos roedd rhaid i fi orffen gwaith. Roedd e’n jysd ‘ o le mae’r bwyd yn mynd i ddod’, ‘o ble mae’r arian yn mynd i ddod i dalu am yr holl filiau a rhent’?”

Ond diolch i Fanc Bwyd Cwmaman fe ddaeth Sarah a’i theulu trwy gyfnod anodd iawn. “Wnaethon’ nhw rhoi popeth i ni – o’n i mor relieved achos roedd rhywun mas ‘na yn helpu pobol. Mae ‘na lawer o deuluoedd sydd yn stryglan – maen nhw’n gweithio ond sdim lot o arian yn dod mewn,” meddai Sarah.

Ymysg eraill sydd yn cael eu hanrhydeddu mae Catrin ‘Toffoc’ Jones am ei gwaith hi gyda Côr-ona a Jessica, 10 oed o ardal Deiniolen am ysgrifennu llythyrau i henoed yr ardal er mwyn iddyn nhw beidio teimlo’n unig.

Yn goron ar y cyfan ac yn ddiweddglo perffaith i’n rhaglen fe fydd Elin Fflur yn canu cân newydd sbon fydd yn anrhydeddu ein harwyr, cân fydd yn rhoi’r flwyddyn a’n straeon anhygoel ar gof a chadw.

Author