Home » Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf
Cymraeg

Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf

Ar ôl pori trwy fwy na 40 miliwn o roddwyr mêr esgyrn gwirfoddol o’r Cofrestrfeydd ar draws y byd, daeth y claf Taisha Taylor, sy’n 15 oed, o hyd i rywun sy’n byw dim ond 30 munud mewn car o’i chartref.

Bellach yn 20 oed, fe wnaeth Taisha oresgyn anhwylder oedd yn amharu ar ei bywyd diolch i rodd mêr esgyrn achub bywyd gan ddieithryn llwyr, Kirsty Burnett, yn 2019. Ar gyfer Diwrnod Rhoddwyr Mêr y Byd (Medi 16), mae’r pâr yn rhannu eu stori i annog mwy o bobl i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Cafodd Taisha, o Newbridge, ddiagnosis o’r anhwylder diffyg imiwnedd etifeddol prin, CGD (Chronic Granulomatous Disease) pan oedd yn blentyn. Mae gan bobl sydd â’r cyflwr systemau imiwnedd sy’n methu, sy’n gadael y corff yn agored i lid cronig ac o bosibl, heintiau sy’n peryglu bywyd. Taisha oedd un o’r menywod cyntaf yn y byd i gael ei diagnosio a diolch byth, eu hiacháu o’r cyflwr trwy drawsblaniad mêr esgyrn.

Oherwydd prinder y cyflwr, rhoddodd meddygon gynnig ar sawl triniaeth, gyda phob un ohonynt yn aflwyddiannus. Gobaith olaf Taisha oedd cael trawsblaniad mêr esgyrn. Ar ôl methu â dod o hyd i roddwr addas o fewn ei theulu, roedd Taisha yn dibynnu ar haelioni dod o hyd i roddwr mêr esgyrn oedd ddim yn perthyn iddi i gydweddu â hi.

Wrth siarad am ei salwch, dywedodd Taisha, “Roedd yn ofnadwy. O pan roeddwn i’n 10 oed, bob bore cyn paratoi ar gyfer yr ysgol, roedd angen i mi stretchio am tua 30 munud dim ond i sefyll i fyny a mynd i lawr grisiau.

“Dros y blynyddoedd, cefais lawer o driniaethau, ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus, a dyna pryd gafodd yr opsiwn o drawsblaniad mêr esgyrn ei awgrymu. 

“Dydy llawer o bobl ddim yn dod o hyd i rywun sy’n cydweddu, heb sôn am rywun sy’n cydweddu mor agos. Roeddwn i’n ffodus dros ben o glywed bod Kirsty wedi cael ei darganfod fel rhoddwr. Fe wnes i ddarganfod ei bod yn cydweddu mor agos, fel ei fod bron fel petai hi’n perthyn i mi,
sydd yn rhywbeth prin iawn.  

Ers hynny, mae Taisha wedi gwella’n llwyr diolch i haelioni ei rhoddwr, Kirsty. 

Ymunodd Kirsty, sydd bellach yn 24 oed o Gasnewydd, â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru fel gwirfoddolwr yn ystod sesiwn rhoi gwaed a fynychodd. 

Meddai Kirsty, “Fe wnes i gofrestru i fod ar y gofrestr mêr esgyrn pan oeddwn i’n 17 oed yn ystod fy rhodd gwaed cyntaf. Roedd yn broses syml; rhoddais ddau sampl gwaed ychwanegol, a dyna ni. Cefais fy ychwanegu at gronfa ddata fyd-eang o tua 40 miliwn o roddwyr gwirfoddol. Mae’r gronfa ddata honno’n cael ei phori gan glinigwyr ar draws y byd bob dydd am gleifion sydd angen rhywun i gydweddu a nhw. Doeddwn i ddim yn disgwyl clywed dim byd eto.

online casinos UK

Yn dilyn cyfres o lythyrau dienw, fe wnaeth Taisha a Kirsty gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2021.

Ychwanegodd Taisha, “Nawr, mae Kirsty fel cael ffrind gorau a chwaer wedi’i rolio’n un.”

“Yn rhyfeddol, dydyn ni ddim yn siarad cymaint â hynny am y trawsblaniad. Mae hi’n rhan o’r teulu erbyn hyn.

“Roeddwn i eisiau bod yn ddawnswraig a gweithio gydag anifeiliaid, ond doeddwn i ddim yn gallu. Ond nawr, dwi’n gallu. ‘Dwi’n gobeithio bod Kirsty yn gwybod mai hi yw’r rheswm dwi yma yn byw’r bywyd na allwn ond ei ddymuno pan roeddwn yn eistedd ar y llawr yn gwneud yr ymarferion hynny bob bore.

“Mae gan bawb y cyfle hwnnw i gael eu paru ac o bosib achub bywyd rhywun. Mae fy mywyd wedi cael ei achub diolch i Kirsty. Buaswn yn annog pawb i gofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, a rhoi’r gobaith i rywun fel fi bod dyddiau gwell i ddod.

“Byddwch yn arwr i rywun fel mae Kirsty i mi.”

Mae Diwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd yn fenter gan Gymdeithas Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd. Mae cofrestrfeydd a chanolfannau trawsblannu ar draws y byd yn defnyddio’r diwrnod arbennig hwn i ddiolch i bob rhoddwr mêr esgyrn ar draws y byd. 

Mae’n ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau am y pwysigrwydd o gofrestru fel rhoddwr mêr esgyrn, ac effaith trawsblaniad mêr esgyrn ar fywyd claf.

Dywedodd Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, “Mewn geiriau syml, mae angen mwy o bobl ifanc arnom i ymuno â’n Cofrestr. Ar hyn o bryd, ni fydd tri o bob 10 claf yn dod o hyd i’r rhoddwr sydd ei angen arnynt, ac mae’r ystadegyn hwnnw’n codi i saith o bob 10 os ydych chi o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig.

Author