Home » Llais y Llywydd: Carwyn Jones AC
Cymraeg

Llais y Llywydd: Carwyn Jones AC

Yr Urdd: ‘Mae’n darparu cyfleoedd mawr’

MAE CARWYN JONES AC, Prif Weinidog Cymru roedd Llywydd y Dydd, ar dydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ar Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Carwyn Jones ei eni ym 1967 a cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn Inns of Court School of Law, Llundain. Mae wedi bod yn aelod o’r Blaid Lafur ers 1987 ac yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ers 1999.

O fis Mawrth 2000 i fis Rhagfyr 2009 cafodd gyfrifoldeb dros sawl portffolio Gweinidogol. Yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan AC ym mis Rhagfyr 2009, cafodd ei apwyntio fel Prif Weinidog Cymru ac fe’i benodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar y 9fed o Fehefin 2010. Yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016 cafodd ei ail-benodi’n Brif Weinidog Cymru.

Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o’r Urdd?

Gweithgareddau yn yr ysgol gan fwyaf, ond yn anffodus chefais i ddim y cyfle i gystadlu nac i fynd i Langrannog neu Glan-llyn.

Yw’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?

Bum yn cystadlu mewn Eisteddfodau ysgol a thrwy hynny, ynghyd â siarad yn y capel, fe ddysgais sut i siarad yn gyhoeddus. Mae hyn wedi bod yn sgil ddefnyddiol iawn i mi yn fy ngyrfa.

Pa gystadleuaeth newydd hoffech ei weld yn rhan o’r Eisteddfod?

Cystadleuaeth ysgrifennu ffuglen ar y pwnc “Disgrifiwch beth fyddech chi’n ei wneud os byddech chi’n Brif Weinidog Cymru am y diwrnod”. Byddai’n ddiddorol iawn clywed beth yw syniadau rhai o arweinwyr Cymru’r dyfodol!

Beth, yn eich barn chi, yw’r peth gorau am yr Urdd?

online casinos UK

Drwy’r Urdd, mae pobl ifanc yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol, gan wneud yr iaith yn berthnasol i genhedlaeth y cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cyfleon gwych i fod yn rhan o weithgareddau led-led Cymru.

Author