Home » Llusernau i oleuo degfed pen-blwydd Gorymdaith y Ddraig
Cymraeg

Llusernau i oleuo degfed pen-blwydd Gorymdaith y Ddraig

BYDD Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal Gorymdaith y Ddraig wahanol i’r arfer ddydd Sadwrn 2 Mawrth i nodi Dydd Gŵyl Ddewi a degfed pen-blwydd y digwyddiad.

Yn yr orymdaith, a fydd yn cychwyn am 5.30pm, bydd plant ysgolion lleol a grwpiau cymunedol yn cario llusernau ar ffurf cerfluniau wedi’u hysbrydoli gan fyd natur drwy strydoedd dinas leiaf Prydain, dan arweiniad llusern lachar ar ffurf draig.

Dywedodd Katie Murphy, Cydlynydd Gweinyddu, Manwerthu a Digwyddiadau Oriel y Parc: “Mae’r gymuned wedi rhoi cefnogaeth arbennig o dda i Orymdaith y Ddraig dros y degawd diwethaf ac roeddem yn teimlo bod degfed pen-blwydd yn gyfle da i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol.

“Mae grwpiau yn cael eu gwahodd i greu eu llusern eu hunain ar thema leol ar gyfer yr orymdaith, ac mae cymorth ar gael yn rhad ac am ddim gan yr arlunydd Elly Morgan, gyda gweithdai yn cael eu cynnig yn Oriel Parc neu yn yr ysgol/lleoliad o’ch dewis chi.

“Bydd Gwiber, y cerflun enfawr o neidr, a grëwyd gan y prosiect Adders are Amazing, hefyd yn deffro o’i gaeafgwsg i ymuno â’r dreigiau yn yr orymdaith.”

Bydd sesiynau galw heibio rhad ac am ddim hefyd yn cael eu cynnal yn Oriel y Parc rhwng 2pm-4pm ar ddydd Llun 25 Chwefror a dydd Iau 28 Chwefror i alluogi pobl leol i greu llusern fel y gallant hwythau ymuno yn y dathliadau.

Os hoffech chi, eich busnes, eich grŵp neu eich ysgol gymryd rhan, ffoniwch Oriel y Parc ar 01437 720392 neu anfonwch e-bost at [email protected] i gofrestru eich diddordeb yn y gweithdai ac yn yr orymdaith.

Author