Home » Nyrsys – angylion ac arwyr Covid-19
Cymraeg

Nyrsys – angylion ac arwyr Covid-19

DROS y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ffordd y mae’r byd yn gweld nyrsys a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru wedi newid wrth i bandemig Covid-19 fwrw Cymru.
Mae nyrsys wedi bod yna i ni erioed – yr angylion tawel sy’n gofalu amdanom ni trwy gydol ein hoes. Yn ystod 2020, maen nhw wedi esblygu i fod yn arwyr go iawn gyda phobl yn dod allan o’u tai yn wythnosol i ddathlu a chlodfori’r dynion a’r merched ymroddedig a dewr yma.
Mae Nyrsys – cyfres newydd sy’n dechrau ar S4C ar Nos Fercher, 25 Tachwedd – yn mynd â ni at lygad y ffynnon trwy ddilyn gwaith nyrsys cymunedol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin Cymru drwy gyfnod y pandemig.
Mae nyrsys y gymuned yn gofalu am y cleifion mwyaf bregus yn eu cartrefi. Yn ystod blwyddyn unigryw, mae’r pwysau ar nyrsys cymunedol gorllewin Cymru yn fwy nag erioed o’r blaen.
Yn y rhaglen gyntaf, byddwn yn dilyn Elen Lewis, nyrs yn ardal Aberteifi, sydd wedi cael profiad personol o effaith Covid-19. Fe gollodd Elen ei modryb, Undeg, ym mis Ebrill ac roedd y golled yn sioc i’r teulu cyfan.
Meddai Elen: “Ar ddechre mis Ebrill, o ni yn gwybod ei bod hi yn sâl gartre – a doedd hi ddim yn gwella. Nath y doctor hala hi mewn i Ysbyty Glangwili, a gath hi ei hala bron yn syth wedyn i’r uned gofal dwys lan fan ‘na. Ond yn anffodus, ddath hi byth gartre.
“Ar ôl iddi fynd mewn i’r ysbyty, achos y lockdown oedd neb yn gallu mynd mewn i weld hi.  Roedd ei gŵr, Tudur, wedyn ‘di gorfod dod gartre a chael galwad ffôn wedyn i ddweud bod hi wedi mynd. A fi jyst yn meddwl shwt oedd e’n teimlo ddim yn gallu bod yna, ddim yn gallu mynd lan i ddala ei llaw hi, oedd e jyst yn greulon colli rhywun y ffordd ‘na.”
“Y gwir yw sdim neb yn saff wrth y feirws ‘ma. Ma fe dal yma. Diogelu cleifion, diogelu ein hunain, wel ‘na gyd y’ ni yn gallu neud.”
Mae Siân Williams, nyrs yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin yn cytuno. “Ni ‘di cael haf eitha’ gwael gyda Covid, fel nyrsys. Mae ‘di bod yn rili anodd treial addasu i weithio’n wahanol,  treial neud y penderfyniadau sydd yn iawn i’r cleifion, neud siŵr bod nhw’n saff, neud siŵr bod ni’n saff…”
Yn ystod y rhaglen gyntaf cawn weld cymaint y mae cleifion yn dibynnu ar y nyrsys cymunedol nid yn unig i ddarparu gofal ond fel cwmni hefyd.
Gan fod cleifion yn fwy caeth na’r arfer i’w cartrefi yn y cyfnod clo, mae ‘na groeso mawr i Elen ar ambell aelwyd gan gynnwys Molly James sydd yn ei 90au ac yn dioddef gyda chlwyf poenus ar ei choes.
Mae Elen hefyd yn mynd i drin Bernadette Dolan sy’n gwella ar ôl cael pum llawdriniaeth ar ei choes yn dilyn cwymp fis Rhagfyr diwethaf. Fe gafodd blatiau metel wedi’u gosod yn ei choes ond fe wnaeth ei chorff eu gwrthod felly bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth i dynnu’r cyfan allan ym mis Mehefin yn ystod y Clo Mawr.
Draw i Cross Hands, Sir Caerfyrddin ac rydym yn dilyn y nyrs Siân Williams wrth iddi hi ymweld â George, dyn ifanc 18 oed â spina bifida. Roedd George i fod i gael llawdriniaeth ar ei goluddyn fyddai’n sicrhau ei fod yn gallu byw yn fwy annibynnol, ond mae hynny wedi cael ei ohirio yn sgil Covid-19, felly bydd rhaid iddo aros tan y flwyddyn nesaf.
Yn y rhaglen hon hefyd, fe fyddwn yn gweld sut mae Siân yn ymateb i achos brys. Mae’r tîm yn cael galwad bod gwraig wedi cwympo ar lawr yn ei chartref ac wedi bod yno dros nos. Cawn weld y cyffro i gyd yn y ganolfan iechyd ac ar leoliad wrth iddyn nhw alw’r gwasanaethau brys i agor y drws a mynd â’r wraig i’r ysbyty.
Yn yr ail raglen yn y gyfres, byddwn yn cwrdd â Teleri Gwyther sy’n gweithio fel Nyrs Methiant y Galon yng Ngheredigion. Mae ganddi bron 40 mlynedd o brofiad yn gweithio fel nyrs. Fe fydd yn ymweld â Trevor Peregrine, gafodd ddwy stent wedi’i osod yn ei galon yn ddiweddar, ond er hynny, mae’n ŵr ffit ac iach yn ei 90au sydd wedi teithio’r byd yn ystod ei fywyd.
Byddwn hefyd yn dilyn Lowri Davies, nyrs ifanc, ar ei diwrnod cyntaf o drin cleifion ar ei phen ei hun. Fe glywn am ei theimladau a’i nerfusrwydd o orfod mynd i mewn i gartrefi cleifion a gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.

Author