Home » Penbwlydd Hapus Merched y Wawr
Cymraeg

Penbwlydd Hapus Merched y Wawr

TYDI MODEL ​’glamour​’ ac actores ifanc ddim yn cael eu cysidro fel aelodau nodweddiadol Merched y Wawr! Ond ar hanner canfed blwyddyn y mudiad, mae dwy aelod newydd arbennig iawn yn camu o’r colur a’r camerâu, ac yn ymuno â’r chwiorydd.

Mewn rhaglen arbennig, 50! Penblwydd Hapus Merched y Wawr ar nos Sul 10 Medi, cawn ddilyn Jess Davies a Hannah Daniel wrth iddyn nhw ddarganfod gwir natur y sefydliad. Y bara brith a’r tê sydd wedi eu gwneud yn enwog, ond mae ‘na gymaint mwy i’r mudiad na hynny.

Mae Jess Davies, sy’n 24 mlwydd oed, yn wreiddiol o Benrhyncoch ger Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi gwneud enw i’w hun fel un o fodelau glamour gorau Prydain tra’r oedd hi’n astudio ar gyfer gradd mewn Cymdeithaseg. Ers dwy flynedd mae hi’n rhedeg busnes yn gwerthu gwisgoedd nofio ac yoga.

Mae Hannah Daniel, sy’n actores 31 oed o Gaerdydd yn adnabyddus am ei rôl fel D.S. Siân Owens yn y gyfres ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland. Byddwn ni’n ei gweld hi nesaf ar S4C yn y gyfres ddrama Un Bore Mercher ym mis Tachwedd.

Yn y rhaglen 50! Penblwydd Hapus Merched y Wawr mae’r ddwy yn cwrdd ag amryw o gymeriadau sy’n aelodau o Ferched y Wawr – gan gynnwys Zonia Bowen, Sulwen Lloyd Davies a Lona Puw fu’n gyfrifol am sefydlu’r mudiad yn Y Parc, Y Bala ‘nôl yn 1967. Fe’i sefydlwyd fel mudiad iaith Gymraeg i ferched oedd yn anfodlon gyda natur uniaith Saesneg Sefydliad y Merched.

Maen nhw hefyd yn dod i ddysgu am draddodiad ymgyrchu a phrotest y mudiad. Yn ystod yr 1980au, Merched y Wawr fu’n gyfrifol am gael gwasanaeth sgrinio cancr y fron i Gymru, wedi i 300 o aelodau ddod ynghyd i orymdeithio yn Westmister, Llundain, ac ymgyrchu yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r mudiad hefyd wedi bod yn brwydro i gael hawliau i’r iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd – nhw oedd yn gyfrifol am sicrhau’r hawl i gael talu gyda siec oedd wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg.

Roedd clywed am yr hanesion yma yn syndod i Jess a Hannah. Meddai Hannah Daniel; “Mae’n eitha’ annoying bod cymaint o ystrydeb ynglŷn â’r mudiad achos maen nhw wedi, ac yn dal i, wneud cymaint o waith gwych, ac yn gwneud hynny heb unrhyw ffỳs a ffwdan a broliant. Achos hynna, dy’n nhw ddim yn cael y clod maen nhw’n haeddu.

“Cafodd Merched y Wawr ei sefydlu mewn cyfnod gwleidyddol, a dyna’r egni oedd y tu ôl i’r sefydlu. Yn fuan, nes i ddod i ddeall bod y merched ‘ma’n llawn sbardun ac yn llawn brwydr. Dwi’n teimlo cywilydd braidd, fel rhywun o genhedlaeth apathetic, sy’n cymryd y pethau ‘ma’n ganiataol. Dy’n ni’n anghofio bod cymaint o frwydro wedi bod yn y gorffennol. Does prin dim ymdrech, o’i gymharu, gennym ni i warchod yr iaith ar gyfer y dyfodol,” ychwanega Hannah.

Ond wedi hanner canrif o frwydro ac ymgyrchu, dathlu yw’r nod eleni, ac mae Jess a Hannah’n cael blas o’r digwyddiadau sydd wedi’u cynnal i nodi’r penblwydd arbennig. Un o’r rhain yw sioe ffasiwn a gynhaliwyd yn ystod y Sioe Frenhinol lle bu’r ddwy yn modelu ffasiynau o bob degawd.

Ac wrth gwrs, does dim modd anghofio am y bara brith, a Jess gafodd y dasg o flasu 36 o wahanol fathau wrth feirniadu cystadleuaeth goginio yng ngŵyl flynyddol y mudiad!

online casinos UK

Gyda hanner canrif o hanes i’w ddathlu, mae Merched y Wawr yn parhau wrth galon y gymuned Gymraeg ac mae ei haelodaeth yn mynd o nerth i nerth.

“Mae ‘na dal dân ym moliau Merched y Wawr,” ychwanega Hannah Daniel. “Tydi’r aelodau ‘ry’n ni wedi cwrdd â nhw ddim yn cymryd eu hunain yn rhy o ddifri, er gwaetha’r gwaith maen nhw wedi’i gyflawni – maen nhw dal yn gallu cael laff fel y gwelwch chi yn y rhaglen!”​

Author