Home » Sara yn creu cynllun buddugol
Cymraeg News

Sara yn creu cynllun buddugol

Chwith i’r Dde: Mererid Hopwood, Rhian Jones ac Erin Rickard
Chwith i’r Dde: Mererid Hopwood, Rhian Jones ac Erin Rickard
Chwith i’r Dde: Mererid Hopwood, Rhian Jones ac Erin Rickard

MAE SARA ELAN JONES, disgybl tair ar ddeg mlwydd oed yn Ysgol Bro Pedr, wedi ennill cystadleuaeth i ddod o hyd i syniad gwreiddiol ar gyfer logo NAWR, Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg: Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Dewiswyd dyluniad Sara Elan gan banel o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a oedd yn cynnwys y Swyddog Prosiect Gweithredol, Gweinyddwyr ac Uwch Ddarlithwyr yn y Celfyddydau Gweledol. Dewiswyd dyluniad Sara Elan oherwydd ei ddelweddaeth deinamig oedd yn adleisio gwerthoedd craidd y Rhwydwaith wedi cyfuno gyda llythrennau llawrydd a defnydd o symbolau i ddynodi pobl yn cydweithio.

Dywedodd Sara Elan Jones: “Rwy’n treulio llawer o fy amser yn braslunio; pan ofynnwyd i mi roi cynnig ar y gystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer NAWR wnes i fraslunio llawer o syniadau gwahanol. Penderfynais dewis y dyluniad symlaf, er mwyn rhoi’r effaith orau oedd yn cyfuno yr hyn mae NAWR yn cynrychioli. Wnes i hefyd ychwanegu manylion bach yn ymwneud â beth mae’r geiriau NAWR cynrychioli.”

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o bedwar Rhwydwaith Rhanbarthol newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg wedi’u sefydlu fel rhan o’r prosiect arloesol mawr a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru – Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau – cynllun gweithredu ar gyfer Cymru.

Mae’r Rhwydweithiau hyn wrth wraidd Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau – cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer y celfyddydau ac addysg a bydd yn cyflawni un o’r prif feysydd – Cynnig y Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan.

Mae Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg: Canolbarth a Gorllewin Cymru, NAWR, wedi’i seilio ar rannu ymrwymiad i ddarpariaeth amgylchedd dysgu ffrwythlon lle gall plant ffynnu drwy fod yn rhan o brofiadau addysgol diddorol a chreadigol. Mae NAWR yn ceisio magu hyder a chreadigrwydd ymhlith athrawon, dysgwyr ac ymarferwyr ar sail prosiectau cynhwysol, cydweithredol a yrrir gan brosesau ac sydd wedi’u seilio ar y celfyddydau, yn ogystal â chyfleoedd dysgu proffesiynol. Y bwriad yw mewnosod cyfleoedd dysgu creadigol a chynaliadwy mewn ysgolion ar draws yr ardal.

Fydd NAWR yn darparu cyfle i rannu’r arloesi a’r dysgu proffesiynol cynhenid hynny a geir mewn enghreifftiau o addysg greadigol ysbrydoledig a ddaw o bob rhan o Gymru ac o gwmpas y byd. Mae pob Rhwydwaith yn gweithio’n ddwyieithog ac yn cofleidio cyseinedd iaith a diwylliant er mwyn cynorthwyo a chefnogi datblygiad unigolion hyderus, gwybodus drwy roi iddynt ryw deimlad o fod yn rhan.

Meddai Diane Hebb, Cyfarwyddwr Cyfranogi ac Ymgysylltu, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydym am weld pob plentyn yn cael mynediad i’r celfyddydau a ble bynnag y mae eu hysgol. Mae addysg greadigol a diwylliannol yn rhoi i’n pobl ifanc y profiadau cyfoethog sydd eu hangen arnynt pan fyddant yn ifanc yn ogystal â datblygu’r doniau a’r gallu i feddwl yn greadigol sy’n gyrru diwydiannau creadigol Cymru. Mae angen inni wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi addysg greadigol a diwylliannol drwy fentrau tebyg i hon. Mae gweithio’n well mewn partneriaeth a dull gweithredu mwy strategol yn allweddol ac rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r ychwanegiad hanfodol newydd hwn at y cynllun. Rydym wrth ein bodd gyda’r cynigion a ddaeth i law ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r consortia.”

Author