MAE YMGEISWYR llwyddiannus CPCP a CALU yn ERW wedi cael eu canmol mewn seremoni gyflwyno am eu hymrwymiad a’u gwaith caled.
Cafodd y rheiny sydd wedi cwblhau eu Cymhwyster Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) a’u Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yn llwyddiannus eu gwahodd i seremoni gyflwyno ar gampws Llambed,
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ar 18 Hydref.
Eleni, mae consortiwm ERW wedi cyflawni graddfa lwyddo o 100%, gyda phob un o’r 26 o unigolion a gafodd eu hasesu ar gyfer CALU yn llwyddo. Mae 30 o ymgeiswyr eraill wedi cwblhau eu CPCP yn llwyddiannus.
Cafodd y tystysgrifau eu cyflwyno ar ran ERW gan Barry Rees, Cyfarwyddwr Dysgu a Phartneriaeth Cyngor Sir Ceredigion.
Yn ystod y seremoni, dywedodd Mr Rees: “Hoffwn longyfarch pob un ohonoch sydd yma heddiw. Mae’n gyfle i ddathlu eich llwyddiant, ac i ddiolch i’ch rhwydweithiau cymorth gartref sydd wedi eich cefnogi yn ystod y broses hon.”
Croesawodd Tom Fanning, Cydgysylltydd Rhaglenni ERW ar gyfer y Fargen Newydd, yr ymgeiswyr llwyddiannus a’u gwesteion i’r seremoni, a dywedodd: “Mae llawer o waith cydweithredol wedi’i wneud yn ystod y broses hon, a hynny’n gywir ddigon, ac mae’r gwaith hwn yn berthnasol i’r hyn yr ydym yn ei wneud yn ERW, sef hyrwyddo a rhannu arfer da.”
Mae ERW – gwasanaeth gwella ysgolion De a Gorllewin Cymru – yn gweithio gyda chwe Awdurdod Lleol: Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe, gan gwmpasu dros 500 o ysgolion.
Add Comment