Home » Ysgoloriaeth Aled i astudio gradd mewn amaethyddiaeth
Cymraeg News

Ysgoloriaeth Aled i astudio gradd mewn amaethyddiaeth

screen-shot-2016-11-17-at-15-18-26MAE ALED WYN DAVIES o Langadog, sy’n gyn-fyfyriwr Ysgol Bro Dinefwr, wedi ennill ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio am radd mewn amaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr.

Astudiodd Aled gwrs diploma estynedig mewn amaeth yn y coleg y llynedd gan lwyddo i ennill rhagoriaeth. Mae nawr yn astudio ar flwyddyn gyntaf cwrs gradd anrhydedd BSc, sy’n paratoi dysgwyr yn academaidd ac ar gyfer y byd gwaith, gan agor cyfleoedd gyrfaol mewn meysydd megis ffermio, rheolaeth busnes, rheolaeth fferm, a maetheg anifeiliaid y fferm.

Mae Aled, sy’n gweithio gyda’i deulu ar eu fferm 350 erw o wartheg eidion, defaid a llaeth yn Llangadog, yn cyfuno ei astudiaethau gyda’i rôl flaenllaw ar Fferm Cwmcowddu. Enillodd ei etheg waith le iddo ar raglen Academi Amaeth Busnes Cymru lle derbyniodd wobr Aelod Iau’r Flwyddyn Ffermwyr Ifanc Cymru.

Author