Home » Cau’r bwlch rhwng prisiau’r fferm a manwerth
Cymraeg

Cau’r bwlch rhwng prisiau’r fferm a manwerth

Ffermwyr: Dderbyniwyd gwell gyfran o prisiau manwerthu ar gyfer cig
Ffermwyr: Dderbyniwyd gwell gyfran o prisiau manwerthu ar gyfer cig

ROEDD ffermwyr yn derbyn cyfran fwy o’r pris manwerth am gig eidion a chig oen yn Awst 2016 nag yn ystod yr un cyfnod yn y ddwy flynedd flaenorol.

Datgelwyd hyn yn rhifyn mis Hydref o Fwletin y Farchnad – adroddiad misol Hybu Cig Cymru (HCC) sy’n crynhoi patrymau masnachu a phrisiau defaid, gwartheg a moch – oedd yn sôn am ymlediad prisiau fferm/manwerth.

Yr ymlediad prisiau fferm/manwerth yw’r gwahaniaeth rhwng y pris i’r ffermwr a phris bwyd yn y siopau.

Ym mis Awst, roedd ffermwyr y DU yn derbyn 52% o gyfran prisiau cig oen a chyfran o 50% o brisiau manwerth cig eidion, ond bu amrywiadau yn yr ymlediad yn y misoedd blaenorol.

Yn y sector cig oen, y gyfran isaf a dderbyniodd ffermwyr y DU oedd 49% o’r pris manwerthu a hynny ym mis Ionawr ond cynyddodd hwn yn raddol i 54% erbyn mis Mawrth. Yn sgil prisiau gwell am dda byw, yn ogystal â gostyngiad yng ngwerth y bunt, derbyniodd cynhyrchwyr gyfran fwy o brisiau’r archfarchnadoedd.

Y gyfran isaf sydd wedi’i thalu i ffermwyr cig eidion yn 2016 hyd yn hyn ydi 45% ym mis Ebrill, ond mae’r sefyllfa wedi gwella’n raddol yn sgil llai o gyflenwad a galw cyson am y cynnyrch.

Meddai John Richards, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant: “Y prif reswm am unrhyw amrywiad yn yr ymlediad fferm-manwerth fyddai newidiadau i’r prisiau am anifeiliaid wedi pesgi mewn marchnad gystadleuol iawn.

“Ym mis Awst 2016, roedd cyfran y ffermwr am gig oen 10% yn fwy nag yn yr un cyfnod yn 2015, ac mae hynny’n adlewyrchiad o gyflwr y farchnad ar y pryd. Bydd nifer o ffactorau, yn cynnwys cyfradd gyfnewid anwadal a chyflenwad amrywiol, yn cael dylanwad ar ddatblygiad y sefyllfa dros y misoedd sydd i ddod.

Author