Home » Cyhoeddi ‘Yr Alwad’ i deuluoedd i Gymru
Uncategorized

Cyhoeddi ‘Yr Alwad’ i deuluoedd i Gymru

kizzy crawfordBYDD HYSBYSEB deledu newydd ar gyfer teuluoedd yn dechrau ymgyrch farchnata Cymru ar gyfer 2015 yn rhan o ymgyrch farchnata Croeso Cymru ar gyfer y Deyrnas Unedig ac Iwerddon – Does unman tebyg i Gymru – yn mynd yn fyw heddiw [19 Ionawr].

Mae’r ymgyrch yn cynnwys fersiwn newydd o hysbyseb deledu Marc Evans ar gân newydd ‘Yr Alwad’ gan y gantores a’r gyfansoddwraig sydd wedi dod i amlygrwydd yn ddiweddar Kizzy Crawford.

Diben y rhan ddiweddaraf o’r ymgyrch yw annog pobl i ddod i Gymru i fwynhau anturiaethau, i ddarganfod pethau newydd ac i fwynhau treulio amser gyda’i gilydd fel teulu. Bydd yr hysbyseb deledu yn cynnig anturiaeth yng Nghastell Caernarfon a chyfle i weld y dolffiniaid ar hyd arfordir Ceredigion.

Mae Cymru yn lle gwych i fynd am wyliau gyda’r teulu ac yn lle delfrydol i ddod am brofiadau newydd. Mae yma draethau sy’n berffaith i fynd i archwilio’r pyllau yn y creigiau, hela crancod, mynd am bicnic ac mae yma ddigon o dywod i adeiladu 200 miliwn o gestyll tywod. Ceir yma brofiadau arbennig i deuluoedd, llwybrau beicio sy’n rhydd o draffig a digon o lefydd i gael hoe a hufen iâ; afonydd i badlo’n dawel mewn canŵ a digon o lefydd addas i deuluoedd sy’n cynnig llety gwahanol i’r arfer – mewn melin ddŵr, goleudy a byncws sydd â llithren o’r llawr cyntaf i’r llawr gwaelod.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates: “Mae’r farchnad deuluol yn bwysig iawn i Gymru. Yn ôl Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr roedd plant yn rhan o 40% o dripiau gwyliau a drefnwyd gan bobl o Brydain i Gymru yn 2013. Gwariwyd dros £350 miliwn adeg y gwyliau hynny. Bydd yr ymgyrch hon yn canolbwyntio ar anturiaethau i deuluoedd sydd ar gael yng Nghymru a’r nod fydd newid rhagdybiaethau pobl am Gymru a chodi ymwybyddiaeth am yr amryw weithgareddau ac anturiaethau sy’n cael eu cynnig gan ein tirwedd anhygoel. Mae llawer o gyfleoedd i roi cynnig ar brofiadau newydd am y tro cyntaf – dal eich pysgodyn cynta ar gyfer y barbeciw, hedfan drwy’r awyr ar wifren sip neu fownsio ar drampolîn mewn ogof o dan ddaear, syrffio neu ddarganfod yr arfordir am y tro cyntaf, agosáu at fyd natur a bwydo’r Barcud Coch neu hyd yn oed gamu’n ôl mewn amser drwy ymweld â’ch castell cyntaf. Rydw i wrth fy modd cael gweithio gyda Kizzy Crawford ar yr hysbyseb yma sy’n dangos talentau creadigol newydd Cymru ar eu gorau.”

Yr ymgyrch hon yw dechrau ymgyrch farchnata fawr yn y Deyrnas Unedig a thramor am yr ychydig fisoedd nesa a fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud y mwyaf o’r farchnad allweddol o ran penderfynu ar wyliau a threfnu gwyliau yng nghyd-destun marchnadoedd targed allweddol Cymru.

Magwyd Kizzy Crawford, sydd yn 18 oed yn Aberaeron, meddai Kizzy: “Mae gen i gymaint o atgofion melys o wyliau teuluol yng Nghymru, byddai’n rhaid fy pum hoff le ar gyfer gwyliau teulu i gynnwys; Traeth Poppit; Arberth; Pen Llyn; parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bedd Gelert. Mae’r rhain i gyd yn fannau nes I ymweld a nhw fel plentyn gyda fy nheulu ac mae nhw’n dod a llawer o atgofion hapus i mi. Maent yn leoedd gwych i deuluoedd i ymweld, ond i gyd yn unigryw ac yn hardd iawn hefyd.”

Author