Home » Datganiad i’r Wasg
Uncategorized

Datganiad i’r Wasg

welshbeachDDIWEDD Chwefror ac yn ystod Mawrth, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd â’i drama lwyfan newydd ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ gan Henrik Ibsen ar daith o amgylch amryw o theatrau Cymru. Wedi ei throsi i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan yr Athro Menna Elfyn, mae hir ddisgwyl am y ddrama hon a fydd yn ymweld â Theatr y Torch, Aberdaugleddau ddiwedd y mis.

Yn ôl y Cyfarwyddwr Artistig, Arwel Gruffydd, mae Ibsen yn archwilio datblygiad cynnar yn y syniad o ryddid cymdeithasol i ferched.

Meddai: ‘ Er bod pobl yn fwy cyfarwydd efallai gyda Tŷ Dol gan Ibsen, mae’r ddrama ‘ Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ yn glasur byd eang sy’n archwilio’r syniad bod gan ferch yr hawl i ddewis ei thynged ei hun gan fynd cyn belled â thrafod ysgariad a sut y gall priodas gaethiwo rhyddid yr unigolyn,’ esboniodd Arwel sydd yn cyfarwyddo drama gan Ibsen am y tro cyntaf erioed.

‘ Mae yn y ddrama afaelgar hon gymeriadau benywaidd cryf sydd yn wynebu’r ddeilema o ddilyn naill ai bywyd cyffrous neu fywyd diogel ac a ydy ni’n hapus gyda’r cyfaddawd?’ ychwanegodd Arwel sydd newydd gyfarwyddo Blodeuwedd lle roedd cymeriad benywaidd cryf arall yn wynebu deilema tebyg.

Mae Menna, sydd yn adnabyddus iawn i ni fel bardd ac awdures, yn Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae wedi cyhoeddi dwsin o lyfrau o farddoniaeth, hefyd nofelau i blant, libreti ar gyfer cyfansoddwyr yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau yn ogystal ag ysgrifennu dramâu ar gyfer radio a theledu.

Meddai: ‘ Dw i’n meddwl yn uchel iawn am waith Ibsen, mae e gyda’r gorau ac mae e mor flaengar, mor oesol a chyfoes. Mae e’n siarad gyda ni heddiw yn yr un ffordd ag oedd e dwy ganrif yn ôl. Mae e’n arbennig fel mae e’n gallu creu cymeriadau cofiadwy ac mae e wir yn deall dyfnder y natur ddynol ac yn tynnu nhw i’r wyneb. Mae ei ddramâu yn gwneud i ni feddwl a theimlo a theimlo’n wahanol wedi eu gweld,’ esboniodd Menna’n frwd.

Ychwanegodd: ‘ Yn wir, pan roeddwn i’n trosi, rown i’n trosi’n betrus mewn ffordd fel tase Ibsen yn edrych dros fy ysgwydd a bron yn clustfeinio. Rhyw barchedig ofn o’i ysbryd e,’ chwarddodd Menna. ‘ Mae trosi drama fy hun yn wahanol iawn i drosi gwaith dramodwr arall.’

Yn ferch i geidwad goleudy, mae’r prif gymeriad Elida, yn ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf. Mae ymweliad rhyw ddieithryn yn corddi’r dyfroedd. Ond ai dieithryn yw ef mewn gwirionedd? Wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â’i gorffennol cythryblus, yn sydyn rhaid gwneud y penderfyniad anoddaf un… aros neu ffoi?

Bydd y stori garu fwyaf cyffrous hon gan Ibsen, dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd, yn agor yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau ganol Chwefror ac yn teithio ar draws Cymru – i Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caerdydd a Llanelli.

Bydd y ddrama yn cael ei pherffomio yn y canolfannau isod:

online casinos UK

Chwefror 25 Torch, Aberdaugleddau 7.30pm Rhagddangosiad

Chwefror 26 Torch, Aberdaugleddau 7.30pm Sgwrs cyn sioe

Chwefror 27 Torch, Aberdaugleddau 7.30pm

Author