BYDD YSGOL gynradd Gymraeg newydd, gwerth £12m, yn cael ei hadeiladu yn lle ysgol bresennol Ysgol Parc y Tywyn.
Mae cynlluniau ar waith bellach i ddechrau’r gwaith ym mis Awst 2016, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i godi’r hysbysiadau a oedd wedi atal datblygu yn yr ardal.
Mae’r ysgol newydd yn un o chwe elfen a gynlluniwyd, sy’n cynnwys codi tai a datblygu seilwaith ar hen safle Grillo; codi tai wrth ymyl y safle; datblygiad hamdden masnachol yn Nwyrain Porth Tywyn; a safle cyflogaeth ger Teras Silver.
Mawrth 2017 yw’r dyddiad arfaethedig ar gyfer cwblhau’r ysgol newydd a fydd yn gwasanaethu dalgylch Porth Tywyn a Phen-bre.
Adeiladir yr ysgol ar safle Spencer Davies Engineering gynt, ger Teras Burrows.
Dros y blynyddoedd mae nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi cynyddu ac o ganlyniad mae’r safle presennol yn fach ac yn gyfyngedig.
Gosodwyd nifer o ystafelloedd dosbarth symudol ar y safle er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd mewn niferoedd.
Bydd yr ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg addas i’r diben, a fydd hefyd yn cynnig addysg feithrin Gymraeg.
£12 miliwn yw cyfanswm cost y prosiect a chlustnodwyd arian ar ei gyfer trwy Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor Sir a menter Llywodraeth Cymru sef Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Bydd angen llunio a chymeradwyo achosion busnes cyn llunio’r pecyn cyllido terfynol.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn i’r ardal. Mae’n rhywbeth y bu ei angen ers tro, ac rydym yn falch iawn fod modd symud ymlaen bellach. Mae’r galw am addysg Gymraeg ym Mhorth Tywyn a Phen-bre wedi cynyddu’n sylweddol, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd yr ysgol newydd hon yn darparu’r adeiladau o’r radd flaenaf y mae’r plant yn eu haeddu. Yn ogystal, rwy’n croesawu’r ddarpariaeth feithrin a fydd yn gwasanaethu teuluoedd yn y dalgylchoedd hyn.”
Add Comment