Home » Nodi carreg filltir Ysgol Bro Teifi
Uncategorized

Nodi carreg filltir Ysgol Bro Teifi

Plant a staff o Ysgol Aberbanc, Ysgol Coedybryn, Ysgol Llandysul, Ysgol Pontsian a Dyffryn Teifi : G yda
Plant a staff o Ysgol Aberbanc, Ysgol Coedybryn, Ysgol Llandysul, Ysgol Pontsian a Dyffryn Teifi : G yda

DDATHLU gosod y panel ffotofoltaidd cyntaf ar do Ysgol Bro Teifi, cynhaliwyd digwyddiad cynaliadwyedd ar ddydd Gwener Gorffennaf 3.
Mae paneli ffotofoltaig yn baneli sy’n cynhyrchu trydan rhag yr haul ac fe wnaeth plant a staff o Ysgol Aberbanc, Ysgol Coedybryn, Ysgol Llandysul, Ysgol Pontsian a Dyffryn Teifi gynorthwyo yn yr achlysur cofiadwy.
Dechreuodd y gwaith ar adeiladu yr ysgol pwrpasol cyntaf 3 i 19 yng Nghymru ym mis Hydref 2014, a baratodd y safle ar gyfer y gwaith ar yr adeilad i ddechrau ym mis Ionawr 2015. Mi fydd y cyfleuster yn cynnwys lle i 678 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd a 360 o ddisgyblion Ysgol Cynradd; Canolfan Integredig i Blant, yn gysylltiedig â’r Feithrinfa, gyda lle i 30 o ddisgyblion; pedair cwrt mewn neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd, lle storio a chyfleusterau newid; a chyfleusterau chwaraeon allanol, yn cynnwys cae chwarae maint llawn, 2G, gyda llifoleuadau, ar gyfer bob tywydd.
Mae cynllun unigryw yr adeilad yn caniatáu gwahanol elfennau o’r ysgol i gael eu defnyddio fel cyfleuster cymunedol y tu allan i oriau ysgol. Yn ychwanegol at y mannau dysgu cyffredinol, mae cyfleusterau eraill a fydd ar gael i’r gymuned yn cynnwys y Brif Neuadd a Llwyfan, cyfleusterau drama a chyfleusterau arlwyo, a allai ddarparu lleoliad perffaith ar gyfer Eisteddfodau, cynyrchiadau drama a digwyddiadau cymunedol eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Hag Harris, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc: “Mae’n garreg filltir falch iawn o fod yn coffáu gosod y panel ffotofoltaidd cyntaf ar do Ysgol Bro Teifi. Bydd y cyfleusterau dysgu ysbrydoledig yn canolbwyntio ar y disgyblion, â sgiliau yn ymestyn i weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon. Bydd hefyd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngheredigion.”
Mae’r ysgol wedi ei raglennu i fod wedi ei gwblhau yng nghanol mis Gorffennaf 2016, gyda’r bwriad o fod ar agor ym Medi 2016.

Author