Home » Cymru’n Llusgo tu ôl? Sut Bydd Datblygu Cyfryngau Cymreig yn Effeithio ar Ddyfodol y Wlad?
Cymraeg

Cymru’n Llusgo tu ôl? Sut Bydd Datblygu Cyfryngau Cymreig yn Effeithio ar Ddyfodol y Wlad?

MAE CYMRU wastad wedi bod yn dilyn ôl troed yr Alban. Cyn refferendwm datganoli 1997, a ddaeth â Chynulliad i Gaerdydd a Senedd i Gaeredin, roedd gan yr Alban ei system gyfreithiol ei hun eisoes, a oedd wedi ei gadw ar ôl deddfau Uno yr Alban ym 1707.

Roedd ganddynt Ysgrifennydd Gwladol hirsefydlog o 1885 ymlaen, o’i chymharu â Chymru a oedd gyda’i Ysgrifennydd Gwladol ers 1964. Mae amryw o engreifftiau eraill o hyn i’w gweld wedi datblygu rhwng Cymru a’r Alban.

Un o’r prif ddatblygiadau, a’r pwysicaf oedd gan yr Alban cyn Cymru oedd cyfryngau Saesneg trwy safbwynt Albaneg. Roedd Cymru yn ddigon ffodus i gael cyfryngau Cymraeg trwy safbwynt Cymraeg, ond nid oedd hi ddigon ffodus i gael cyfryngau Saesneg trwy bersbectif Cymraeg. Mae Cymru wedi hen arfer cael papurau a chyfryngau sy’n cynrychioli rhanbarthau ac ardaloedd o’r wlad, fel y Daily Post, sy’n cwmpasu gogledd Cymru ac ardal Lerpwl, The County Times, sy’n ymdrin â Phowys a Chanolbarth Cymru, a llawer o bapurau rhanbarthol a lleol eraill sy’n cwmpasu’r de ac i’r gorllewin o’r wlad. Doedd ganddi erioed papur na gwasanaeth newyddion yn gwasanaethu Cymru gyfan yn y Saesneg.

Mae gan yr Alban nifer o bapurau ei hun, a hyd yn oed papurau Cenedlaethol gyda rhifynnau Albanaidd, megis y Scottish Sun, The Scottish Daily Mail a’r Scottish Express, i enwi ond rhai ohonnynt. Hyd yn eithaf diweddar, dim ond dau bapur newydd / cylchgrawn Cenedlaethol oedd gan Gymru, a rheiny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Y Cymro, a arferai gael ei werthu bob wythnos mewn siopau, wedi ailgychwyn yn ddiweddar, ac mae wedi dod yn bapur newydd misol.. Mae Golwg yn gylchgrawn misol sy’n trafod materion amserol Cymraeg.

Er fod Cymru heb fod a phapurau Saesneg Cenedlaethol, mae hi wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd gydag Papurau Bro, sy’n chwarae rhan bwysig wrth drafod digwyddiadau a gweithgareddau lleol o amgylch cymunedau Cymru.

Y BBC fu’r prif ddarlledwr dros yr Alban, Cymru a Lloegr dros y 90 mlynedd diwethaf. Mae’r newyddion o BBC Cymru / Yr Alban, drwy’r Radio a thrwy Deledu, yn bennaf trwy bersbectif Seisnig ac yn yr Iaith Saesneg.

Mae Cymru wedi bod yn hynod o ffodus gyda S4C, ei sianel Gymraeg, sydd wedi bod yn darlledu er 1982. Mae ei rhaglen newyddion wedi bod yn darlledu newyddion Cymraeg trwy bersbectif mwyafrif Cymreig dros y 30 mlynedd diwethaf.

Tro Cyntaf i Bopeth

Fel y soniwyd uchod, nid oedd gan Gymru wasanaeth newyddion Saesneg trwy bersbectif Cymraeg erioed; hynny oedd nes i Nation.Cymru lansio yn 2017. Ers iddo lansio mae wedi bod yn rhoi sylwadau ar faterion Cymru ac yn darparu persbectif Cymreig ar wahanol faterion. Mae Nation.Cymru wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r cyhoedd yng Nghymru, ac mae wedi bod yn gwneud sylwadau hefyd ar ddatblygiad mudiad annibyniaeth Cymru. Mae’r alwad am gyfryngau Cymreig cryfach yng Nghymru wedi datblygu law yn llaw â thwf mudiad annibyniaeth Cymru.

online casinos UK

Lansiwyd dau safle newyddion newydd sbon yng Nghymru, Herald.Cymru – sy’n wefan newyddion ar-lein, a The National Wales sydd â gwefan newyddion ar-lein yn ogystal ag argraffu papurau yn y mis diwethaf. Mae eu poblogrwydd eisoes yn amlwg gyda’u darllenwyr. Mae cysylltiad amlwg rhwng eu poblogrwydd â’r cynnydd yn y trafodaethau am annibyniaeth, a datblygu hunaniaeth Gymreig.

Yn ogystal â datblygu gwasanaethau newyddion Cymru, mae digwyddiadau diweddar wedi profi y gallai Cymru fod ar y trywydd i gael ei grymoedd dros ddarlledu yn y dyfodol cyfagos hefyd. Ar yr 11eg o Fawrth, cyhoeddodd pwyllgor trawsbleidiol yn y Senedd adroddiad a oedd yn galw ar ddatganoli agweddau o ddarlledu i Gymru. Galwodd yr adroddiad, ymhlith pethau eraill, am ddatganoli S4C i’r Senedd (yn ogystal â darlledu Cymraeg), i’r Senedd ariannu newyddiaduraeth Saesneg yng Nghymru gyda hyd braich, ac i Gymru gael cyfrifoldebau darlledu eraill.

Er mai newid bach yn unig fyddai hyn o fewn y spectrwm darlledu, byddai’n agor y drws i’r posibilrwydd o ddatganoli mwy o bwerau ynglŷn â darlledu yn y dyfodol. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi canmol y datblygiadau fel dechrau da, ac mai cam cadarnhaol ymlaen fyddai disodli Ofcom yng Nghymru a chreu corff newydd sbon. Mae’n ymddangos fyddai datblygu cyfryngau Cymreig yn dod a safbwynt gwahanol iawn i’r cyfryngau sy’n ganolog ar Lundain nawr.

Mae’r Alban ar yr un lefel â Chymru o ran darlledu, ac mae’n sicr y bydd unrhyw newidiadau a fydd yn digwydd yng Nghymru yn digwydd yn yr Alban hefyd. Mae nifer o Albanwyr, a bleidleisiodd dros annibyniaeth yn yr Alban yn y gorffennol wedi bod yn wyliadwrus i ymddiried yn y BBC, gan honni bod y BBC wedi dangos tuedd o blaid yr Undeb adeg refferendwm 2014.

Datblygiadau’r Dyfodol

Wrth i’r cyfryngau ddatblygu mwy o safbwynt Cymreig, mae’n dod yn amlwg byddant yn parhau i godi ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth a newidiadau cymdeithasol Cymru wedi dod ar gyflymder radical a chyflym yn y gorffennol. Gallai’r cyfryngau Cymraeg sy’n datblygu chwarae rhan pendant wrth wneud i’r newidiadau hynny ddod yn gyflymach fyth yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, neu hyd yn oed yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Yr hyn y mae’r cyfryngau newydd wedi gwneud yw caniatáu i Gymru edrych ar ei hanghenion a’i gofynion hi ei hun, yn hytrach na defnyddio lens Seisnig i edrych ar ei phroblemau. Wrth i fwy o bwerau gael eu datganoli i Gymru, fel plismona a charchardai, ac wrth i awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig gael ei chreu, bydd y cyfryngau newydd yn chwarae rôl wrth helpu pobl Cymru i ddeall y datblygiadau hyn a dysgu sut byddent yn effeithio nhw.

Wrth i Nation.Cymru, Herald.Wales, The National Wales a phob un arall o wasanaethau newyddion Cymru ddechrau cael eu derbyn fel ffynonellau newyddion dibynadwy a Chenedlaethol, ac wrth i bwerau darlledu ddechrau cael eu datganoli i’r Senedd, gallem weld newid yn dechrau datblygu wrth i bobl Cymru ailedrych ar ei hunaniaeth a dysgu am Gymru drwy persepectif Cymreig. Gallai hyn arwain yn y pendraw at Gymru’n dewis i symud ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o’r llwybr mae Lloegr yn bwriadu ei chymryd.

Mae Cymru yn dal i fyny i’r Alban yn eithaf cyflym, a bydd y datblygiadau gyda Chyfryngau Cymru yn cyflymu’r amser y bydd Cymru yn cyrraedd yr un lefel a nhw.

Author