Home » Ail-ymweld â Gwesty Aduniad
Cymraeg

Ail-ymweld â Gwesty Aduniad

DROS y blynyddoedd mae ‘na westy arbennig sydd wedi newid bywydau am byth. Mae’r gyfres Gwesty Aduniad wedi dod â phobl yn ôl at ei gilydd, a hynny weithiau ar ôl oes ar wahân.
Roedd rhai eisiau dweud diolch; eraill angen ymddiheuro cyn iddi fod yn rhy hwyr. O deuluoedd ar wasgar i arwyr wnaeth achub bywydau, o gyn-gariadon i ddarganfod perthynas am y tro cyntaf, mae’r Gwesty hwn wedi dad-gloi stôr o straeon.
Ond sut beth oedd darganfod teulu neu ffrindiau coll? A sut wnaeth bywyd newid ar ôl yr aduniadau?
Mewn cyfres newydd, Goreuon Gwesty Aduniad, sy’n dechrau ar 17 Awst, cawn ail ymweld â rhai wnaeth brofi’r wefr o wireddu breuddwydion, a chael gwybod ychydig mwy am y broses o sut i ddod o hyd i deulu gwaed, wrth brofi eto rhai o aduniadau mwyaf cofiadwy’r gyfres – a chlywed be ddigwyddodd wedyn.
Bydd thema arbennig i bob rhaglen, gan gynnwys ‘Chwilio am Dad’ ‘Cyfrinachau’, ‘Ffrindiau Oes’, ‘Brodyr a Chwiorydd’ ‘Dweud Diolch’ ac ‘O Ben Draw Byd’. Ond troi at luniau mae’r rhaglen gyntaf, ‘Y Stori tu ôl i’r Llun’, lle cawn ail-fyw stori dau berson oedd yn chwilo am deulu gwaed a chlywed eu hanes wedyn ar ôl bod yn y gwesty.
Pan ddaeth Cheryl Davies o hyd i lun o fabi yn ei thŷ yn San Clêr yn 2017 fe sylweddolodd mai hwn oedd y cliw oedd angen arni i geisio dod o hyd i’r ferch fach roddodd ei chwaer i’w mabwysiadu 50 mlynedd ynghynt. O fewn 6 mis wedi i Cheryl gysylltu â Gwesty Aduniad gyda’r gobaith o ddod ag oes o chwilio i ben, daeth newyddion da.
“Ar ôl addo i Elinor byddwn i’n ffindo Helen, doeddwn i ddim yn gwybod byddai mor galed” meddai Cheryl.
Cawn glywed sut wnaeth y wybodaeth angenrheidiol yn y llun hollbwysig helpu darganfod ei nith oedd wedi’i magu dan yr enw Virginia, a chawn ail-fyw’r aduniad bythgofiadwy.
“Pan weles i hi, dwi ddim yn gallu esbonio sut o’n i’n teimlo, achos roedd hi yna – dim jest meddwl amdani fel o’n i wedi gwneud am 50 mlynedd. Heblaw am Westy Aduniad byddwn i ddim wedi dod o hyd iddi” ychwanega Cheryl.
Ond beth ddigwyddodd nesaf? Yn y gyfres cawn glywed am y llawenydd wedi’r aduniad wrth i bawb ddod at ei gilydd a chreu teulu cyflawn o’r diwedd.
Stori am sut mae hen lun yn medru camarwain pobl oedd un John Jones o Lechryd, Ceredigion pan drodd at Westy Aduniad wedi blynyddoedd o chwilio am hanes ei dad.
A llun fu’n ganolog i stori Trebor Roberts o Lansannan hefyd – llun oedd wedi’i gario yn ei waled am ddegawdau.
Mae gan y tri hyn bellach stôr o luniau newydd i’w trysori i’r dyfodol. Ymunwch â’r daith emosiynol, fydd yn cynhesu’r galon yn y gyfres newydd hon.

Author