Home » Amser i gau’r bwlch ar Gymraeg yn sefydliadau
Cymraeg

Amser i gau’r bwlch ar Gymraeg yn sefydliadau

ER BOD sefydliadau cyhoeddus wedi perfformio yn well wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg yn ystod 2019-20, mae ‘na le i rai sefydliadau wella eto yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts.

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon sydd yn adrodd ar berfformiad sefydliadau cyhoeddus wrth iddynt ymdrin â’r Gymraeg. Mae’r adroddiad yn dangos bod perfformiad wedi gwella ar y rhan fwyaf o wasanaethau eto yn 2019- 2020 ond bod rhai agweddau sydd yn parhau i beri pryder i’r Comisiynydd.

Dywedodd: “Mae yna risg fod bwlch yn tyfu rhwng y sefydliadau sydd yn perfformio’n dda a’r rhai sydd ddim cystal, ac mae angen i bob sefydliad gymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.

“A hithau yn bedair blynedd ers i’r sefydliadau cyntaf ddod o dan safonau’r Gymraeg, mi fyddwn yn disgwyl i bob sefydliad gwrdd â’r gofynion bob tro.

“Mae yna rai sefydliadau sy’n perfformio yn dda iawn, ond gydag eraill, mae gwasanaethau allweddol, megis ffôn a derbynfa, yn perfformio’n wael a heb gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma’r gwasanaethau lle mae angen buddsoddi mewn staff.”

Roedd yr adroddiad yn dangos fod 92% o lythyrau neu e-bost Cymraeg wedi derbyn ateb yn Gymraeg, fod opsiynau awtomatig dros y ffon ar gael yn Gymraeg 90% o’r amser a bod ffurflenni ar gael yn gyflawn yn Gymraeg 78% o’r amser.

Ond, dim ond mewn 46% o ymweliadau derbynfa y cafwyd gwasanaeth Cymraeg, a dim ond 55% o alwadau ffôn y llwyddodd sefydliadau i ddelio gyda hwy yn Gymraeg a rhoi ateb cyflawn yn Gymraeg.

Ychwanegodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, “Mi ddylai pob sefydliad fod yn ystyried pethau fel sefydlu tîm neu benodi swyddog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, cynyddu faint o staff sy’n gallu siarad Cymraeg a chynnig gwasanaethau Cymraeg mewn ffordd sy’n golygu mai defnyddio’r Gymraeg yw’r opsiwn mwyaf naturiol. Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft cyfarfodydd sensitif ynghylch llesiant, dw i eisiau i sefydliadau ystyried cynnig gwasanaeth Cymraeg yn ddiofyn.

“Dw i eisiau gallu cymryd yn ganiataol fod gwasanaethau sylfaenol ar gael yn Gymraeg bob tro. Mi allwn ni wedyn ganolbwyntio ar ddyletswyddau eraill sy’n gwneud gwahaniaeth ar lefel strategol. Pethau megis penderfyniadau polisi, gan sicrhau bod sefydliadau yn ystyried effaith pob penderfyniad ar y Gymraeg, a gweithredu strategaethau 5 mlynedd cryf i hybu’r Gymraeg.”

Bydd y Comisiynydd nawr yn cyfarfod gyda’r sefydliadau yn unigol i drafod y canlyniadau a’r diffygion, a beth sydd angen digwydd er mwyn datrys a cheisio cau’r bwlch rhwng sefydliadau sy’n cydymffurfio yn dda a’r rhai sydd ddim cystal.

online casinos UK

Author