Home » Angen uchelgais ar gyfer coedwigaeth Cymru
Cymraeg

Angen uchelgais ar gyfer coedwigaeth Cymru

DYLAI LLYWODRAETH Cymru ailfeddwl ar frys ei strategaeth coetiroedd a cheisio cynyddu cyfraddau plannu yn sylweddol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol o ran polisi coetiroedd yng Nghymru a mynd i’r afael â rhwystrau i gynyddu plannu, a allai ddod â buddion amgylcheddol, gwella lles a chefnogi busnesau yng Nghymru i gynyddu eu gweithgarwch.

Lansiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad ar bolisi coetiroedd yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

• Yr angen am fwy o eglurder ar sut i ddefnyddio coed a choetiroedd fel datrysiad ar gyfer llifogydd sy’n seiliedig ar natur

• Bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau o leiaf 20% o orchudd coed yn nhrefi a dinasoedd Cymru erbyn 2030, oherwydd y manteision amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd ac iechyd sylweddol y gallant eu cyflwyno

• Yr angen i ymestyn a rheoli mynediad yn well i goetiroedd cyhoeddus, yn arbennig i grwpiau ar y cyrion

• Dylai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu Cwmni Coedwigoedd Cenedlaethol i helpu i adfywio cymoedd de Cymru

• Cytuno ar dargedau uchelgeisiol gyda’r sector coedwigaeth er mwyn i Gymru ddod yn gynyddol hunangynhaliol mewn pren

“Bu i ni ymweld â choetiroedd yng Nghasnewydd, Dinas Powys, Crymlyn, Merthyr Tudful, Trecelyn, Maesteg a Phwllheli i ddysgu mwy am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu perchnogion a rheolwyr coetiroedd yng Nghymru, ac ystyried sut gall pawb yng Nghymru elw o’n coed a’n coedwigoedd.

online casinos UK

“Ers 2010, mae un degfed o darged plannu coed Llywodraeth Cymru erbyn 2030 wedi’i gyflawni, ac rydym yn gwybod mai’r prif rwystrau rhag ei gyflawni yw rhai rheoleiddiol ac ariannol, gyda chanfyddiad ymysg buddsoddwyr bod Cymru wedi cau i fusnes o ran creu coetiroedd.

“Canfu ein hadroddiad fod potensial mawr yng Nghymru i blannu mwy o goed a chreu mwy o goetiroedd, ac i ateb y galw am bren sy’n bodoli mewn rhannau eraill o’r DU.

“Rydym yn gwybod bod disgwyl i’r galw am bren sy’n cael ei blannu yn y wlad hon godi wrth i’r diwydiant adeiladu weithio i leihau ei ôl-troed carbon. Bydd creu mwy o goetiroedd yn dod â buddion eang i ni i gyd; mae potensial i’n coed, coedwigoedd a choetiroedd gael eu mwynhau gan lawer mwy o bobl sy’n byw yng Nghymru, i adfywio ein tirweddau yn ogystal â chyfrannu at ein heconomi.”

Author