Home » Hedd Wyn: S4C yn moli bardd eiconig y Rhyfel Mawr
Cymraeg

Hedd Wyn: S4C yn moli bardd eiconig y Rhyfel Mawr

MAE S4C yn nodi canmlwyddiant marwolaeth y bardd Rhyfel Byd Cyntaf Hedd Wyn gydag wythnos o ddrama, cerddoriaeth a rhaglenni ffeithiol rhwng 30 Gorffennaf a 4 Awst.

Fe laddwyd Hedd Wyn, o fferm Yr Ysgwrn, ger Trawsfynydd, ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele, Gwlad Belg ar 31 Gorffennaf, 1917. Rhai wythnosau’n ddiweddarach enillodd ei awdl ‘Yr Arwr’ gystadleuaeth Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Fe gafodd y wobr ei dyfarnu i Hedd Wyn – neu Ellis Humphrey Evans â rhoi ei enw go iawn – ar ôl ei farwolaeth a chael ei hadnabod byth wedyn fel y ‘Gadair Ddu’. Daeth Hedd Wyn yn symbol pwerus a pharhaol o’r milwyr Cymreig a Phrydeinig a fu farw ar feysydd y gad yn Ewrop.

Meddai Comisiynydd Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees: “Mae’n anrhydedd i fod wrth galon y cofio cenedlaethol ar gyfer un o filwyr a beirdd mwyaf eiconig Cymru. Mae’r wythnos o raglenni creadigol ac ysbrydoledig, a fydd yn gorffen gyda chyfle arall i weld première cerddorol byw, yn fodd o dalu teyrnged i genhedlaeth goll.”

Mae’r wythnos o raglenni yn dechrau gyda rhifyn pen-blwydd arbennig o’r gyfres gerddoriaeth mawl Dechrau Canu Dechrau Canmol, (Sul, 30 Gorffennaf) o bentref brodorol y bardd, Trawsfynydd. Gyda Nia Roberts yn cyflwyno, mae’n cynnwys côr yr ysgol gynradd leol, Ysgol Bro Hedd Wyn, Côr Meibion Prysor, ffilmiau archif pwerus a darnau o’i gerdd fawr. Yn dilyn Dechrau Canu Dechrau Canmol, bydd S4C yn darlledu’r ffilm Cymraeg gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer Oscar. Mae’r ffilm Hedd Wyn (Sul, 30 Gorffennaf), a gyfarwyddwyd gan Paul Turner ac yn serennu Huw Garmon yn y brif ran, wedi cael ei chanmol am ei phortread telynegol, emosiynol o’r ffermwr a aeth i ryfel i arbed ei frawd iau rhag mynd.

Er bod 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r ffilm gael ei rhyddhau, mae’r profiad o actio’r brif ran yn dal yn fyw yn y cof i Huw Garmon.

Meddai: “Roedd yna deimlad ar y pryd bod yna rywbeth arbennig am y ffilm. Roedd hi’n stori mor gryf a’r tîm cynhyrchu wedi mynd i’r afael â themâu oesol am farwolaeth drasig y bardd; roedd naws ac ansawdd arbennig i’r ffilmio o’r dechrau. Roedd yn gymaint o fraint i fod yn rhan o’r prosiect a phortreadu cymeriad mor eiconig yn hanes y Rhyfel.”

Dangoswyd y ddogfen Cofio: Hedd Wyn (Sul, 30 Gorffennaf) am y tro cyntaf yn 1967 i gyd-fynd â 50fed mlwyddiant ei farwolaeth. Ynddi mae ei gariad a’i ffrindiau yn cofio am eu cyfeillgarwch gyda’r bardd ac yn esbonio’r anawsterau a gafodd Hedd Wyn yn ei ymdrech i ddod yn Brifardd.

Bydd cyngerdd canmlwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn fyw o Bafiliwn yr ŵyl ar Ynys Môn, a’i chynnwys yw gwaith cerddorol gwreiddiol sydd wedi ei ysbrydoli gan fywyd Hedd Wyn. Mae Cyngerdd Hedd Wyn: A Oes Heddwch? (Gwener, 4 Awst) yn argoeli bod yn brofiad cerddorol a llenyddol cofiadwy. Cyfansoddwyr ac awduron y gwaith newydd yw Aled a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Guto Dafydd, Paul Mealor a Grahame Davies ac fe fydd y perfformwyr yn cynnwys Côr yr Eisteddfod, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r unawdwyr Osian Huw Williams, Casi Wyn, Emyr Gibson a Lleuwen Steffan.

Mae rhaglen ddogfen, A Oes Heddwch: Y Daith i’r Llwyfan, (Mercher, 2 Awst) yn edrych ar y broses o greu a llwyfannu’r gwaith cerddorol cyffrous.

online casinos UK

Yn y rhaglen Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn (Llun ,31 Gorffennaf), mae cyfle arall i fwynhau perfformiad cyntaf y delynores fyd-enwog Catrin Finch o’i theyrnged gerddorol bersonol i’r bardd o’r Konzerthaus, Berlin.

Bydd rhaglen ddogfen newydd am Hedd Wyn yn cael ei chyflwyno gan ein Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn ar S4C yn yr hydref.

Author