Home » Arddangos gwaith arlunwyr lleol yn Oriel y Parc
Cymraeg

Arddangos gwaith arlunwyr lleol yn Oriel y Parc

BYDD dwy arddangosfa newydd gyffrous gan arlunwyr lleol yn cael eu dadorchuddio y mis Chwefror hwn yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi.
Yn dilyn ei chyfnod preswyl llwyddiannus yn 2019, bydd Michaela Holyfield, arlunydd sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod yn dychwelyd i Oriel y Parc gyda detholiad o’i gwaith yn cael ei ddangos ar ei ben ei hun yn yr arddangosfa. Mae arddangosfa ‘Taith’ yn cael ei hysbrydoli gan y dirwedd leol a stori’r Santes Non.
Dywedodd Michaela Hollyfield: “Mae fy ngwaith yn ymdrin â motiffau, sy’n cynrychioli metaffor symbolaidd i mi yn bersonol ynghyd â’r broses o arlunio. Y mwyaf yr ydw i’n ganiatau i’r broses arlunio gael ei hannibyniaeth ei hun, y mwyaf yr ydw i’n clywed beth y mae’r darlun yn ddweud wrthyf. Mae arlunio wedi dod yn rhywbeth sy’n ymddiried yn y broses greadigol ac yn caniatáu i’r darlun ymddangos yn organig.”
Wedi’i dylanwadu gan yr arlunwyr Symbolaidd Hodler a Munch, Mynegiadaeth Haniaethol a gwaith Peter Doig, mae Michaela yn creu darnau haniaethol, llachar sy’n archwilio’r broses o arlunio.
Bydd ‘Taith’ yn cael ei arddangos yn Ystafell Tyddewi rhwng Dydd Sul, 2 Chwefror a Dydd Llun, 30 Mawrth.
Yn ogystal, bydd ‘Byd o straeon bychain’ gan Yvette Brown yn dechrau ar ddydd Sul, 2 Chwefror. Adroddwr hunanaddefedig o ‘straeon celwydd golau’.
Mae Yvette yn defnyddio mannau bychain ar gyfer gwaith celf – o bobl biwtar yn prancio ar froc môr, at adar sy’n datgelu eu cyfrinachau y tu mewn i lyfrau sydd wedi cael eu hailddefnyddio neu fynegi eu barn ar Radio 4.
Dywedodd Yvette Brown: “Mae gen i arferiad o lwytho straeon celwydd golau i fannau bychain. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn ail-greu llyfrau fel eu bod yn dweud stori wahanol i’r hyn yr oedden nhw’n ei ddweud yn wreiddiol, ac rydw i’n dweud llawer o gelwyddau am adar. Hefyd, mae gen i griw bach o gymeriadau sy’n cerdded o gwmpas ar ddarnau o froc môr ac maen nhw’n ddigon caredig i’ch caniatáu chi i lunio eich straeon eich hunain amdanyn nhw.”
Bydd ‘Byd o Straeon Bychain’ yn cael ei arddangos yn Ffenestri’r Ystafell Ddarganfod tan ddydd Gwener, 28 Chwefror.
Mae Oriel y Parc yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cael ei redeg ganddo. Dyma hefyd gartref Amgueddfa Cymru-National Museum of Wales yn Sir Benfro.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.
Er mwyn gweld yr arddangosfeydd, y digwyddiadau a’r gweithgareddau presennol ewch i www.orielyparc.com os gwelwch yn dda

Author