Home » Beirniadodd Brexit anghytundeb llwyr gan ASau
Cymraeg

Beirniadodd Brexit anghytundeb llwyr gan ASau

CYN WYTHNOS hollbwysig yn y Senedd, mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi beirniadu Llafur a’r ceidwadwyr am eu rhan yn creu’r impasse presennol ynghylch Brexit.

Yr oedd Mr Edwards yn hallt ei feirniadaeth o’r ddwy blaid yn San Steffan am bleidleisio i gychwyn y broses o adael yr UE ar waethaf rhybuddion ar y pryd gan Blaid Cymru y byddai eu gweithredoedd yn arwain at ann. Taniwyd Erthygl 50 ddwy flynedd yn ôl i’r Sadwrn diwethaf (30 Mawrth).

Ar Ddydd Ffŵl Ebrill, dywedodd Mr Edwards wedi’r “mis Mawrth mwyaf di-drefn ers cyn cof”, mai May a Corbyn oedd y “ffyliaid Ebrill mwyaf.”

Cyn yr ail rown ar ddydd Llun o bleidleisiau dangosol, bydd Plaid Cymru hefyd yn estyn allan at ASau ar draws y gagendor gwleidyddol i geisio dod o hyd i ateb i impasse Brexit yn y Senedd. Yn benodol, byddant yn ceisio dod o hyd i ffurf ar Bleidlais y Bobl allai ddenu mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

Meddai Jonathan Edwards AS: “Ddwy flynedd yn ôl, yn union cyn i Lafur a’r Ceidwadwyr bleidleisio i gychwyn proses Erthygl 50, fe rybuddiais y byddai ei danio heb gynllun yn cael ei gofio mewn hanes fel un o’r gweithredoedd esgeulus mwyaf dinistriol ers Cyrch y Frigâd Ysgafn.

“Gwnaeth arweinyddion y ddwy blaid fwyaf anwybyddu ein rhybuddion, gan roi’r chwip ar eu ASau i lamu’n gibddall dros ddibyn Brexit. Yr oedd y ddwy blaid wedi’u dallu gan obsesiwn gyda swcro’r bleidlais Adael yn anad dim, heb weld y gwrth-ddweud yn eu haddewidion.

“Mae’r balchder a’r blerwch y rhybuddiais amdanynt yn awr wedi achosi’r chwalfa waethaf yng ngwleidyddiaeth Prydain yn ystod f’oes i. Ac nid yw drosodd eto o bell ffordd.

“Mae Corbyn a May wedi tybio mai ffyliaid yw pobl Cymru, ond wedi’r mis Mawrth mwyaf di-drefn ers cyn cof, hwy yw’r ffyliaid Ebrill mwyaf.”

Wrth ymateb i’r ffaith fod Llywodraeth San Steffan wedi ei threchu eto ar fater cytundeb Brexit, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: “Un diwrnod eto, y Llywodraeth yn colli eto ar eu cytundeb Brexit ffaeledig. Fe wnaethom ni rybuddio’r Prif Weinidog na fyddai gwahanu’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad gwleidyddol yn datrys dim, ac unwaith eto, roedden ni’n iawn.

“Mae gorfodi pleidlais ar delerau ein hymadawiad, anwybyddu unrhyw fanylion am ein perthynas yn y dyfodol, yn methu â rhoi i’n cymunedau, ein cwmnïau na’r pedair gwlad y sicrwydd maent ei angen – Brexit dall go-iawn.

online casinos UK

“Mae San Steffan wedi profi nad oes modd iddynt ddod i benderfyniad. Dyma ni’n sownd mewn cylch diddiwedd o fethu gwneud dim, heb obaith y bydd Tŷ’r Cyffredin yn torri anghytundeb Brexit. Os yw’n iawn i’r Torïaid drio dro ar ôl tro i benderfynu ar ein dyfodol yn Ewrop, sut mae ganddyn nhw’r wyneb i honni nad yw’r bobl rywsut yn deilwng o refferendwm, fydd yn rhoi’r llais terfynol?

“Mae Prydain wedi torri, a dyw San Steffan ddim yn gweithio – mae mor syml â hynny. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell na’r ymerodraeth doredig yr undeb fethiannus yma. Mae seiliau’r wladwriaeth yn gwegian, a rhaid i Gymru edrych at Ewrop ac atom ein hunain i sicrhau ein dyfodol.”

Author