Home » Hanner canrif o chwyldro roc, pop a cherddoriaeth Gymraeg
Cymraeg

Hanner canrif o chwyldro roc, pop a cherddoriaeth Gymraeg

“Yn y flwyddyn rhyddhaodd y Beatles Sgt. Pepper, dyna’r flwyddyn gwelwyd y grŵp roc cyntaf yn y Gymraeg.”

Roedd hi’n 1967, a gyda cherddoriaeth roc yn ffynnu dros y ffin yn Lloegr a ledled y byd, roedd newid ar droed yma yng Nghymru. Daeth y band roc, Y Blew, ar y sin fel chwyldro, gan weddnewid tirwedd gerddorol Cymru fel y grŵp cyntaf oedd yn canu cerddoriaeth roc yn y Gymraeg. Denodd y band sylw cenedlaethol, gan ddechrau’r chwyldro sydd hyd heddiw yn cael ei alw yn y Sin Roc Gymraeg.

A ninnau nawr yn 2019, dros 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r sin yn byrlymu o’n cwmpas o hyd. Yn sin amrywiol, cyffrous, mae hi’n draddodiad sy’n mynnu sylw arbennig un o enwau cerddorol amlycaf Cymru, Prydain a thu hwnt.

Yn Gymro o Gaerdydd, yn gyflwynydd, DJ a cherddor, Huw Stephens aeth ar bererindod gerddorol o Gymru i nodi hanner can mlynedd ers i glustiau’r byd glywed cerddoriaeth roc Gymraeg am y tro cyntaf.

Cynhyrchiad ei bererindod ydi Anorac, ffilm sy’n peintio darlun o sin cerddorol Gymraeg ddoe a heddiw Cymru. Gyda’r ffilm, sydd wedi ei chynhyrchu gan Boom Cymru, eisoes wedi ei darlledu mewn sinemâu ledled Cymru, bydd cyfle i wylwyr S4C brofi’r gampwaith gyda darllediad arbennig o Anorac ar y sianel nos Iau, 4 Ebrill am 9.30.

Yn enw adnabyddus yn genedlaethol fel cyflwynydd ar Radio 1, mae Huw wedi cyfrannu’n ddiflino i gefnogi cerddoriaeth o Gymru. Ymhlith rhai o’i gyfraniadau i’r diwylliant cerddorol mae sefydlu Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, heb sôn am y gefnogaeth mae wedi rhoi i gerddorion o Gymru ar donfeddi ar ei raglenni ar Radio 1, Radio 6 Music a Radio Cymru.

“Weithiau mae rhaid cymryd cam yn ôl ag edrych ar bethau amlwg ac arbennig o’n cwmpas,” meddai Huw Stephens, sydd newydd lanio nôl ym Mhrydain wedi pererindod gerddorol o fath gwahanol yn Nhecsas, UDA, yng ngŵyl gerddorol South by Southwest ar ran Radio 1. “Mae Anorac yn nodi cyfnod cyffrous sin gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol, sydd yn dal i greu cerddoriaeth o safon ers 50 mlynedd.”

Gyda dim ond anorac felen ar ei gefn, dogfennwyd crwydr Huw o Gaerdydd i Geredigion ac o Glwyd i Gaernarfon wrth iddo adrodd chwedl gerddorol yr iaith drwy seiniau ein cerddorion amrywiol o bob cornel o’r wlad.

Gan ddechrau ei bererindod yng Nghaerdydd cyn anelu am y gogledd, mae Huw am gwrdd ag enwau megis Gwenno, Dave Datblygu, Georgia Ruth, Gruff Rhys a’r chwedlonol, Meic Stevens. Cerddorion sydd oll yn cyfrannu’n wahanol iawn i’r gyfoeth sy’n ffurfio’r traddodiad cerddorol Gymraeg.

“Roedd hi’n bleser ac yn hynod ddiddorol i wrando ar y cerddorion yn perfformio a siarad am eu crefft,” ychwanegodd Huw. “Ffilm ‘ar y lôn’ yw Anorac, shwrnai o amgylch ein gwlad brydferth, yn cwrdd â cherddorion sy’n creu heddiw. Mae’r ymateb i’r ffilm o’r dangosiadau sinema wedi bod yn bositif iawn, gyda rhai yn clywed a dysgu pethau newydd ar yr un pryd!”

online casinos UK

O deithiau trên, i fys, neu hyd yn oed fodio lifft oddi ar ochrau lonydd troellog Cymru, bydd Huw yn teithio’r wlad yn profi perfformiadau cerddorol, gan rannu gyda’r cerddorion eu syniadaeth a’u gweledigaeth am y diwylliant cerddorol Gymraeg, o’r roc i’r pop, ac o’r rap i’r gwerin.

Nid yn unig y mae’r ffilm yn taflu golau ar gerddoriaeth Cymru, mae Anorac yn adlewyrchiad o brydferthwch ac amrywiaeth ddaearyddol arbennig y wlad. O ardaloedd dinesig y de, i arfordiroedd godidog bae Ceredigion ac i diroedd agored, gwledig Llŷn, mae Huw yn stopio mewn lleoliadau nodweddiadol, llawn cymeriad y wlad.

Diddordeb mewn cerddoriaeth, diddordeb yn y Gymraeg neu ddiddordeb yng Nghymru – mae Anorac yn ffilm hanesyddol ond eto’n gyfoes, sydd am roi blas i wylwyr o bob math o ddiwylliant gyfoethog Cymru, Gwlad y Gân. Gwyliwch, nos Iau, 4 Ebrill am 9.30 ar S4C.

Bydd Anorac ar gael i’w gwylio yn rhyngwladol ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill am 150 diwrnod wedi’r darllediad ar 4 Ebrill.

Author