
MAE PRIF WEITHREDWR newydd Urdd Gobaith Cymru bellach wedi cychwyn ar ei swydd newydd. Sioned Hughes, sydd yn wreiddiol o Ruthun, gafodd ei phenodi i’r swydd gan gymryd yr awenau gan Efa Gruffudd Jones fu’n wrth y llyw am dros 10 mlynedd.
Cyn ymuno gyda’r Urdd roedd Sioned yn gweithio fel Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol gyda Chartrefi Cymunedol Cymru. Mae wedi treulio cyfnodau o’i bywyd yn Aberystwyth a’r Felinheli ond bellach yn byw yn Ystum Taf gyda’i phartner Mark a’i dau o blant, Gwen a Cian.
Bu Sioned yn egluro ychydig o’i gweledigaeth ar gyfer yr Urdd. Dywedodd, “Gyda’r Urdd yn dathlu’r 100 mewn chwe mlynedd, mae’n amser cyffrous iawn i fod yn ymuno gyda mudiad ieuenctid sydd â dros 54,000 o aelodau.
Meddai Sioned: “Mae’n rhaid i ni fod yn gyfredol i bobl ifanc, mae’n rhaid i ni fod yn eitha’ cŵl!”
“Mae’n amlwg fod y mudiad wedi cael arweiniad cadarn gan Efa yn ystod ei chyfnod hi fel Prif Weithredwr a fy ngobaith i yw adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud ganddi hi. Rwy’n gobeithio cryfhau yr Urdd, cynyddu aelodaeth, gwella ymwybyddiaeth a sicrhau ein bod yn deall dyheadau, anghenion a gofynion ein haelodau fel ein bod yn mynd o nerth i nerth.”
Mae gan yr Urdd dros 260 aelod o staff a miloedd o wirfoddolwyr ledled Cymru. Dywedodd Sioned, “Fy mwriad dros y misoedd cyntaf yw i wrando’n astud, gweld a phrofi, dysgu a holi staff, gwirfoddolwyr ac aelodau. Rwyf hefyd yn awyddus i glywed y syniadau sydd ganddynt a’r cyfleoedd sydd gennym i ehangu ein darpariaeth a chodi ein hymwybyddiaeth ymysg cynulleidfaoedd megis rhieni, dysgwyr a’r di-Gymraeg.”
Bydd yr Urdd yn dathlu eu canmlwyddiant yn 2022, ac mae paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer y dathlu. Ychwanegodd Sioned, “Mae’r canmlwyddiant ar y gorwel ac mae angen i ni fod yn uchelgeisiol nid yn unig yn y dathliadau ond yn fwy pwysig yr hyn ydym eisiau i’r Urdd fod. Dwi’n hyderus y byddwn ni fel tîm yn sicrhau fod yr Urdd yn fwy llewyrchus nag erioed ac y bydd 2022 yn cael ei chydnabod fel blwyddyn Urdd Gobaith Cymru i holl bobl Cymru.”
Add Comment