Home » Buddsoddi yn Ysgol Llangadog
Cymraeg

Buddsoddi yn Ysgol Llangadog

TORRWYD y dywarchen gyntaf yn Ysgol Llangadog yn ddiweddar i ddynodi dechrau buddsoddiad o £4.5 miliwn yno.

Mae gwaith i ailwampio, adnewyddu ac ymestyn yr adeilad ysgol presennol yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor, sy’n ceisio sicrhau bod pob plentyn yn y sir yn gallu manteisio ar adeiladau a chyfleusterau addysg o’r radd flaenaf.

Mae contractwr lleol, WRW, wedi’i benodi i wneud y gwaith.

Mae’r cynllun wedi’i strwythuro mewn dau gam a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod tymor y gwanwyn 2020.

Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect yn darparu 120 o lefydd ysgol gynradd i’r ysgol. Defnyddir yr adeilad hefyd gan ddarparwr allanol i ddarparu 30 o lefydd meithrin.

Hefyd bydd maes parcio â 52 o lefydd yn cael ei greu, a chaiff gwaith cysylltiedig o ran priffyrdd, mynediad a thirweddu ei wneud.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Rwy’n falch o weld bod y gwaith ar Ysgol Llangadog wedi dechrau. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod yr ysgol yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r athrawon a’r disgyblion.”

Mae Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor wedi buddsoddi £250 miliwn hyd yn hyn yn ysgolion Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys adeiladu wyth ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd.

Author

Tags