Home » Cadeirydd HCC yn rhybuddio am ddyfodol masnach Ewrop
Cymraeg

Cadeirydd HCC yn rhybuddio am ddyfodol masnach Ewrop

M​AE newyddion da iawn i’r sector ddefaid yn yr ystadegau diweddara gan wasanaeth Cyllid a Thollau EM (HMRC) ar gyfer hanner cyntaf 2017.

Yn ôl HMRC, bu lleihad o ran y cig oen a fewnforiwyd i Brydain – o Seland Newydd yn bennaf – o 15% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Ar yr un pryd gwelwyd cynnydd sylweddol o 25% yng ngwerth allforion cig oen o Brydain, sef cyfanswm o £177.3 miliwn dros y chwe mis. Bydd cyfraniad Cymru i’r cynnydd yma yn sylweddol, gan fod y wlad yn gartref i bron i draean o ddiadell gwledydd Prydain ac yn meddu ar frand ryngwladol gref Cig Oen Cymru PGI.

Yn ôl y corff cig coch Hybu Cig Cymru (HCC), mae’r perfformiad masnach rhagorol i’w briodoli i gyfuniad o gyfradd is y Bunt a’r galw cynyddol mewn nifer o farchnadoedd pwysig am gynnyrch o safon fel Cig Oen Cymru.

“Yn ddi-os mae’r ffigurau yma’n newyddion da i ddiwydiant cig oen Cymru,” meddai Cadeirydd HCC Kevin Roberts. “Mae’r lleihad mewn mewnforion o Seland Newydd i’w groesawu, ac yn dangos fod manwerthwyr Prydain yn ymateb i alw eu cwsmeriaid am gig o safon sydd wedi ei gynhyrchu gartref.”

Ychwanegodd Mr. Roberts; “Mae’r ystadegau allforio hefyd yn hwb sylweddol. Calonogol iawn, er enghraifft, yw gweld cynnydd o 29% mewn gwerthiant i’r Almaen, lle y bu HCC yn gweithredu rhaglenni marchnata llwyddiannus ar gyfer Cig Oen Cymru PGI o fewn y diwydiant arlwyo a gwasanaeth bwyd anferth sydd yno.”

Ond rhybuddiodd Kevin Roberts fod y ffigurau’n atgyfnerthu’r angen dybryd i gynnal masnach rydd a di-rwystr i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd i Gig Oen Cymru.

“Dengys ystadegau HMRC fod rhywfaint o gynnydd mewn marchnadoedd newydd fel Hong Kong, ond fod y rhan helaeth o’r twf diweddar mewn allforion wedi dod o wledydd o fewn yr UE fel Ffrainc a Gwlad Belg, lle mae brand Cig Oen Cymru eisoes yn adnabyddus,” meddai.

“Mae HCC yn barod i weithio gyda’r diwydiant i gymryd mantais o unrhyw gyfleon newydd yn yr UDA neu wledydd eraill os a phan y daw datrysiad diplomataidd i’r rhwystron sydd i’r marchnadoedd hynny, ond ar hyn o bryd mae dros 90% o’n allforion yn mynd i Ewrop,” meddai. “Croesawaf y ffigurau allforio calonogol yma, ond bydd ffermwyr Cymru angen mynediad teg i farchnadoedd Ewrop er mwyn cynnal y momentwm yma wedi Brexit ym mis Mawrth 2019.”

Author