Home » HCC yn penodi Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas
Cymraeg

HCC yn penodi Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas

Hybu Cig Cymru board and staff portraits 4 May 2012 photo ©keith morris 2012 www.artswebwales.com [email protected] 07710 285968 01970 611106

MAE Hybu Cig Cymru (HCC) wedi penodi John Richards yn bennaeth newydd ei dîm Datblygu’r Diwydiant.

Bydd y penodiad yn cryfhau gwaith corff ardoll cig coch Cymru gyda ffermwyr a phroseswyr yn ystod cyfnod tyngedfennol pan fo’r diwydiant yn wynebu dyfodol ansicr ynghylch mynediad i farchnadoedd masnachu allweddol a chymorthdaliadau.

Mae gan John, sy’n frodor o Lanymddyfri, brofiad hir o weithio ym myd amaeth. Wedi derbyn hyfforddiant i fod yn economegydd amaethyddol, bu’n Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant gyda HCC, ar ôl bod yn gweithio i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae cyfraniad HCC wrth ddadansoddi tueddiadau’r defnyddwyr a’r farchnad mewn modd awdurdodol a chyfredol yn bwysicach nag erioed,” meddai John. “Wrth i ni wynebu dyfodol anodd, rwy’n edrych ymlaen at yr her o wneud yn siŵr fod ffermwyr yn gallu cael hyd yn ddidrafferth i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn gwneud penderfyniadau cytbwys ar gyfer eu busnesau.”

Ychwanegodd: “Mae HCC hefyd mewn sefyllfa unigryw oherwydd mae ei gylch gwaith yn cynnwys y gadwyn cyflenwi cig coch yn ei chyfanrwydd. Ein bwriad yw gweithio gyda phawb yn y sectorau defaid, cig eidion a phorc er mwyn cael oes silff hwy i’r cynnyrch a gwella effeithlonrwydd ar y ffermydd fel bod gennym ddiwydiant proffidiol a chynaliadwy yn y dyfodol.”

Author