Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

AR GYFER ein taith gyntaf yn y flwyddyn newydd, buom yn ardal Llangrannog gyda Ros Price-Jones a Russ Price yn arwain.

Aethom ar daith gylch bleserus iawn o ryw dair milltir ac ar y ffordd clywon ni hanes Rhydcolomennod a Gwersyll yr Urdd wrth fynd heibio iddynt. Ymlaen wedyn at lwybr yr arfordir heibio i Bendinas Lochtyn ac wedyn i lawr i’r pentref ger y traeth, lle aeth y rhan fwyaf ohonom i fwynhau lluniaeth yn y Pentre Arms.

Ddydd Sadwrn 9fed Chwefror byddwn yn ardal Aberteifi a Patch, gyda Pob Thomas yn arwain. Byddwn yn gadael y maes parcio (tâl) ar bwys yr hen archfarchnad ar lan Afon Teifi (SN 175 459; Cod post: SA43 1HR) am 10:30.

Awn ar daith unffordd, ddwy awr o ychydig yn llai na 3 milltir ar dir gwastad; byddwn yn dilyn Llwybr yr Arfordir yr holl ffordd i’r maes parcio rhwng Penyrergyd a Gwbert (Jubilee) lle gosodir ceir ymlaen llaw i fynd â’r gyrwyr yn ôl i Aberteifi. Cerddwn ddwy filltir ar lwybr troed (a all fod yn fwdlyd mewn mannau) i Nantydderwen a’r filltir olaf ar y palmant wrth ochr y ffordd. Ni fydd sticlau. Cawn ddysgu am hanes a byd natur yr ardal wrth gerdded. Wedyn bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth yng Nghaffi Gorffwysfa’r Pysgotwyr wrth y man cychwyn.

Fis Mawrth 9fed, awn i ardal Rhos-y-bwlch (Rosebush) gyda Gwyndaf a Heather Tomos yn arwain. Byddwn yn gadael maes parcio’r pentref (SN 075 295; Cod post: SA66 7QX) am 10:30yb a mynd ar daith gylch ychydig yn llai na dwy awr o ryw ddwy filltir a chwarter ar draciau cadarn a thir gwastad.

Cerddwn heibio i flaenau tai teras y pentref tuag at y Preselau cyn troi i’r chwith ac yn nes ymlaen i’r chwith eto i ddychwelyd i’r maes parcio. Ni fydd sticlau. Byddwn i’n dysgu ychydig am hanes pentref Rhos-y-bwlch / Rosebush, y chwareli llechi a’r rheilffordd, a byd natur yr ardal. Ar ôl cerdded, bydd yn bosibl cael lluniaeth yn y Dafarn Sinc.

Mae croeso cynnes i bawb ar bob taith. Darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad: a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth.

Isod, mae manylion bras ein teithiau nesaf. Os hoffech ragor o fanylion, neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â [email protected] 01239 654561
D.S. Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.

9 Chwefror: Ardal Aberteifi a Patch
Gadael y maes parcio (tâl) ar lan afon Teifi (SN 175 459) (Cod post SA43 1HR) am 10.30yb.

Arweinydd: Pob Thomas
9 Mawrth: Rhos-y-bwlch / Rosebush
Gadael maes parcio Rosebush (SN075 295) (Cod post SA66 7QX) am 10.30yb.

online casinos UK

Arweinwyr: Gwyndaf a Heather Tomos
13 Ebrill: Llanbedr Pont Steffan
Gadael maes parcio Clwb Rygbi Llambed (SN578 486) (Cod post SA48 7HZ) am 10.30yb.

Arweinydd: Gillian Jones

Author