Home » Eisiau dianc rhag hynt a helynt gwleidyddiaeth?
Cymraeg

Eisiau dianc rhag hynt a helynt gwleidyddiaeth?

MAE HI’N anodd cadw trac ar yr holl newidiadau gwleidyddol sy’n digwydd o’n cwmpas. Does dim bwletin yn mynd heibio heb newyddion yn torri o Fae Caerdydd, San Steffan… neu hyd yn oed Washington, DC.

Ond ydi’r holl drafod gwleidyddol yn mynd yn drech?

Yr wythnos hon ar Adre, bydd Nia Parry yn cael cwmni un o wynebau amlycaf gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Ond peidiwch â phoeni, cyfle i ddianc rhag hynt a helynt gwleidyddiaeth yw pennod yr wythnos hon, gan weld ochr wahanol i un o wleidyddion arloesol Cymru.

Nid yn unig un, ond bydd dau wyneb cyfarwydd yn croesawu Nia i’w cartref nos Fercher 30 Ionawr am 8.25 ar S4C. Power couple mwyaf eiconig ein dydd – na, nid Posh a Becks, a chwaith nid Jay Z a Beyoncé – ond Dafydd Wigley ac Elinor Bennett. Gyda’r ddau wedi ennill eu plwyf mewn meysydd sydd bellteroedd byd o’i gilydd, mae Nia am gael gwledd gerddorol a gwleidyddol yr wythnos hon ar aelwyd y cwpl yn Y Bontnewydd ger Caernarfon.

Yn gerddor heb ei hail, ac wedi rhyddhau pymtheg albwm ledled y byd, mae Elinor Bennett yn delynores amlwg sydd wedi meithrin sawl talent dros y blynyddoedd. A hithau wedi dathlu 50 mlynedd o briodas gyda’i gŵr Dafydd Wigley nôl yn 2017, tybed beth yw’r gyfrinach?

“Rhan amser! Mae Dafydd yn Llundain hanner yr amser,” chwardda Elinor, sy’n aml yn treulio ei hamser yng Nghaerdydd yn gwarchod ei hwyrion. “Bod yn nain ydi’r peth mwya’ pleserus yn y byd.”

A hithau yn ugain mlynedd eleni ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, chwaraeodd Dafydd Wigley rôl holl bwysig yn yr ymgyrch i gael Cynulliad i Gymru. Yn ogystal, mae Dafydd yn eicon am ei gyfraniad calonogol tuag at hawliau pobl anabl, yn enwedig ei gyfraniad tuag at basio Deddf Personau Anabl 1981. Bydd Nia yn cyffwrdd â’r mater sy’n agos iawn at galonnau’r cwpl yn y rhaglen, gan iddynt golli dau o feibion oedd yn dioddef o anableddau difrifol.

“Tydi rhywun ddim yn llwyr ddod drwy golli plentyn – dydi o ddim yn dy adael di,” meddai Dafydd. “Nes i ddysgu llawer iawn am fyd anabledd o ganlyniad, a ges i gyfle yn y Senedd i weithredu ar hynny, a chael deddf 1981 trwodd yn seiliedig ar y profiad.”

“Wrth edrych nôl, mae rhywun yn sylweddoli erbyn rŵan fod pethau wedi agor llawer iawn mwy i bobl efo anableddau,” ychwanegodd Elinor, “roedd ‘na ryw fath o dabŵ nôl yn y saithdegau. Oedda’ ni isho bod yn agored, ac odd y ffaith fod Dafydd yn Aelod Seneddol yn golygu ei bod hi’n haws i ni fod yn agored.”

Ag yntau’n treulio llawer iawn o’i amser yn Llundain o hyd gyda’i sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae Dafydd Wigley wrth ei fodd yn cael dychwelyd o brysurdeb San Steffan i Ogledd Cymru. Gyda cherddoriaeth yn cael ei gweld fel ffordd arbennig o ymlacio, tybed a ydi taro tant ar un o nifer o delynau Elinor yn ddiddordeb ganddo?

online casinos UK

“Yn anffodus, dwi’n gwbl angherddorol – dwi’n gadael yr ochr yna yn llwyr i Elinor. Ond dwi’n hoff iawn o wrando,” meddai Dafydd.

Yn hytrach, yn nes at natur mae ei hafan, yn yr ardd lysiau godidog sydd i’w gweld ar y rhaglen.

“Does ‘na’m dwywaith fod garddio’n therapi. Mae o’n le da i hel meddyliau,” meddai Dafydd.

Author