Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

AR EIN taith fis Chwefror aeth y Cerddwyr i ardal y Mwnt a Howard Williams yn arwain. Nid oedd y gwynt, glaw ac oerfel yn annog cerdded i ddechrau, ond gwobrwywyd y dewrion (dros 30 ohonon ni) â gwell tywydd yn weddol fuan. Cawsom gwmni dysgwyr a oedd ar gwrs Cymdeithas yr Iaith yn Nhresaith, a phawb yn mwynhau. Bu Howard Williams yn ein harwain ar lwybrau a heolydd tawel a chlywon ni am nodweddion a hanes y Mwnt, a’r frwydr yn erbyn y Ffleminiaid, gan sylwi ar sawl enw tŷ sy’n adlewyrchu’r hanes. Ac wrth gwrs, bu’r dirwedd a’r Eglwys drawiadol yn ein cyfareddu. Ar ôl cerdded, aeth rhai i gymdeithasu dros fwyd yng Ngwesty Gwbert.

10fed mis Mawrth, byddwn yn ardal Nanhyfer a Llwyngwair gyda Tony Haigh yn arwain, gan adael maes parcio Tafarn Tre-wern, Nanhyfer (SN 083 397; cod post SA42 0NB) am 10:30yb. Awn ar daith gylch ddwy awr tua dwy filltir a hanner, yn bennaf ar draciau a llwybrau. Byddwn ni’n ymweld ag Eglwys Nanhyfer ac wedyn â safle’r hen gastell cyn dilyn y llwybr uwchlaw Afon Nyfer i lawr, dros Bont Newydd, i gyrraedd ardal Llwyn-gwair. Awn yn ôl ar lwybr gwahanol. Ychydig o ddringo lan i’r castell (ryw 100/150 troedfedd); mae un rhan o’r llwybr i lawr i’r afon yn serth ac yn anwastad. Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys: Eglwys Nanhyfer, yr ywen waedlyd a’r groes Geltaidd yn y fynwent, Castell Nanhyfer (lle bu llawer o waith cloddio yn ddiweddar), croes y pererinion, a hanes Llwyn-gwair. Gallwn gymdeithasu a chael lluniaeth yn Nhafarn Tre-wern wedyn.

Llethrau Carn Ingli fydd ein cyrchfan 14eg Ebrill, a Ruth Sharpe a Judith Wainwright yn arwain. Byddwn yn gadael y llecyn parcio ger Cilgwyn (SN070 373) am 10:30yb.

I ddod o hyd iddo, ar ôl tua hanner milltir ar y ffordd fach o Drefdraeth at Gilgwyn trowch i’r dde a dilyn yr heol fferm ar hyd y mynydd am ryw 300 metr, neu gallwch weld map ar: tinyurl.com/parciocarningli . Bydd yn daith ddwy awr tua 2.5 milltir mewn cylch clocwedd i gyd ar draciau dwyreiniol a gogleddol Carn Ingli heb ddringo’r llethrau serth. Cyfanswm yr esgyniad fydd tua 330 troedfedd a fydd dim sticlau. Bydd rhannau yn weddol fwdlyd dan draed, yn enwedig wrth groesi’r nentydd bychain. Bydd digon i’n diddori: olion ein cynhanes ar y mynydd yn enwedig y cytiau cylch niferus; ffermio heddiw; a golygfeydd eang ac amrywiol. Ar ôl y daith, gallwn gymdeithasu dros luniaeth ac mae dewis da yn Ndraeth, yn enwedig caffis ‘Blas’ a ‘Tides’ ar Heol y Farchnad, a Gwesty’r Castell ar y briffordd.

Bydd croeso i bawb ar bob taith. Os nad ydych wedi cerdded gyda ni o’r blaen, neu os hoffech ragor o fanylion neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â [email protected] 01239 654561

DYDDIADAU:

10 Mawrth: Nanhyfer a Llwyngwair
Gadael maes parcio Tafarn Trewern, Nanhyfer (SN083 397) (Cod post SA42 0NB) am 10.30yb.
Arweinydd: Tony Haigh

14 Ebrill: Carn Ingli
Gadael y maes parcio wrth odre dwyreiniol Carn Ingli ger Cilgwyn (SN070 373) (tinyurl.com/parciocarningli) am 10.30yb.
Arweinwyr: Ruth Sharpe a Judith Wainwright

12 Mai: Coed y Foel, Llandysul
Gadael maes parcio Llandysul (SN418 406) (Cod post SA44 4QP), gan rannu ceir, am 10.30yb.
Arweinwyr: Lesley Parker a Dee McCarney

Author

Tags