Home » Cerfio atgofion rygbi o garreg
Cymraeg News

Cerfio atgofion rygbi o garreg

Cerflun sy’n coffau 150 mlynedd o rygbi Cymru
Cerflun sy’n coffau 150 mlynedd o rygbi Cymru
Cerflun sy’n coffau 150 mlynedd o rygbi Cymru

YN DDIWEDDAR fe wnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddathlu Llambed fel man geni rygbi yng Nghymru gyda diwrnod llawn o ddigwyddiadau.

Am ddiwrnod cyfan ym mis Mawrth, (dydd Mercher, Mawrth 23ain), rygbi oedd prif ffocws y Brifysgol a’r dref gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau i goffáu cyfraniad Llambed i’r gamp. Mae tymor 2015/2016 yn nodi 150 mlynedd ers i’r gêm rygbi gystadleuol gyntaf erioed gael ei chwarae yng Nghymru. Chwaraewyd y gêm – rhwng Coleg Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant erbyn hyn) a Choleg Llanymddyfri.

Er mwyn cael cofeb parhaol ar dir y Brifysgol, fe wnaeth pwyllgor y dathliadau gomisiynu Mark Sawyer, technegydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ddylunio a chreu cerflun o bêl rygbi mawr a ddadorchuddiwyd yn ystod dathliadau’r diwrnod. Mae bellach yn sefyll tu allan i Adeilad Caergaint ar y campws yn Llambed.

Meddai Mark: “Roedd yn anrhydedd i gael yr Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes a’r Dirprwy Is-Ganghellor, Gwyndaf Tobias yn gofyn os hoffwn ddylunio a cherflunio pêl rygbi mawr ar gyfer y dathliadau rygbi. Wrth gwrs, fe wnes i neidio ar y cyfle i greu cerflun parhaol o fy ngwaith ar y campws.

“Yr hyn sy’n gwneud y cerflun yn arbennig iawn yw mai’r garreg-bath o’r adeilad Caergaint gwreiddiol ar gampws Llambed a gafodd ei ddefnyddio i greu’r bêl rygbi. Byddai’r garreg wedi bod yn sefyll yr un pryd y cafodd y gêm gyntaf ei chwarae yn ôl yn 1866. Roedd creu cerflun allan o garreg gyda chymaint o gysylltiad hanesyddol i’r campws yn pwysleisio arwyddocâd y dathliad.

“Cafodd y garreg ei gloddio allan o’r hen fanc rheilffordd lle cafodd ei gosod flynyddoedd lawer yn ôl. Cafodd ei graddio a llawgwnïo i mewn i flociau ac yna’i cherfio i ffurfio’r bêl. Cymerodd tua 30 diwrnod i law gerflunio’r bêl a cherfio 280 o lythyrau. Cafodd y cerflun ei osod gyda chymorth tîm Ystadau’r Brifysgol.

“Does dim byd gwell na chael eich cyflwyno gyda her; mynd i ffwrdd i astudio ac ymchwilio; creu’r offer cywir ar gyfer y swydd; ymarfer, ac yna cwblhau cynnyrch terfynol i’r safon uchaf.

“Rwy’n ffodus iawn i allu dweud fy mod yn mwynhau fy swydd yn fawr iawn. Byddaf bob amser yn falch iawn fod darn parhaol o fy ngwaith yn sefyll yn Llambed ac yn cynrychioli rhan mor bwysig o hanes y campws.”

Mark hefyd gynlluniodd byrllysg y Brifysgol sy’n cael ei ddefnyddio ym mhob seremoni bwysig ar bob campws. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn gwaith adfer a chadwraeth ar y campws sy’n cynnwys gwahanol fathau o waith coed, cerfio, gwaith carreg a gwaith metel a dylunio.

Author